Casgliadau Celf Arlein

Noslun: Glas ac Aur, Eglwys Sant Marc, Fenis [Nocturne: Blue and Gold, St Mark's, Venice]

WHISTLER, James Abbot McNeill (1834 - 1903)

Noslun: Glas ac Aur, Eglwys Sant Marc, Fenis

Dyddiad: 1880

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 44.5 x 59.7 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 210

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Ar ôl iddo fynd yn fethdalwr ym 1879, treuliodd Whistler flwyddyn yn Fenis gan ganolbwyntio ar ysgythriadau a darluniau pastel. Tri darlun olew yn unig, wedi eu cynhyrchu o'r cof yn y nos gan mwyaf, sydd wedi goroesi o'r ymweliad hwnnw. Mae'r olygfa anarferol hon yn cynnwys y Torre' del Orologio ar y chwith. Mae porth mwyaf deheuol Eglwys Sant Marc wedi ei dorri i ffwrdd ar y dde. Lampau nwy yw'r pwyntiau gwyn llachar. Dywedodd Whistler unwaith mai hwn oedd y gorau o'i nosluniau. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1912.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
17 Ionawr 2016, 19:22
I just saw this painting at your museum today. This work features some amazing subtle light and dark textures. I could have stared at this painting for hours.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd