Casgliadau Celf Arlein
Gêm o Fowls
ANGILLIS, Pieter (1685 - 1734)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 44.5 x 54.6 cm
Derbyniwyd: 1937; Rhodd; Y Parch. A.C. Dyer
Rhif Derbynoli: NMW A 3709
Byddai golygfeydd pentrefol fel hyn yn boblogaidd iawn ymysg noddwyr cyfoethog, a fyddai’n mwynhau eu hapêl wladaidd ac yn gweld hiwmor ym mhleserau syml y gwerinwyr. Byddai pobl yn aml yn cysylltu bowlio â meddwdod a hapchwarae. Mae’n ymddangos fel pe bai’r arlunydd yn cyfleu neges foesol drwy wrthgyferbynnu tafarn â meindwr eglwys yn y cefndir. Arlunydd Ffleminaidd oedd Angillis oedd yn gweithio yn Llundain yn bennaf. Byddai’n peintio golygfeydd o fywyd y werin yn arddull artistiaid Ffleminaidd cynharach.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.