Casgliadau Celf Arlein

Sgwd yr Henryd, Cwm Nedd [Sgwd yr Henryd, Vale of Neath]

WILLIAMS, Penry (1802 - 1885)

Sgwd yr Henryd, Cwm Nedd

Dyddiad: 1819

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 31.9 x 23.1 cm

Derbyniwyd: 1939; Rhodd; John Herbert James

Rhif Derbynoli: NMW A 472

Mae rhai brasluniau olew yn darlunio safleoedd ac adeiladau enwog, tra bod rhai eraill yn canolbwyntio ar gorneli di-nod o fyd natur. Mae'r tirlun cynnar hwn yn darlunio Rhaeadr Henryd ger Coelbren lle mae Afon Llech yn disgyn 90 troedfedd dros graig ar ei ffordd i Afon Tawe. Mae'n un o grw^p o ddarluniau o Dafarn y Lamb and Flag Glyn-nedd. Roedd y dafarn yn ganolfan gyfleus i archwilio'r Cwm, a chafodd ei disgrifio gan William Weston Young ym 1835 fel 'tafarn gyffyrddus i ddadflino... mae mewn lle hardd a'r golygfeydd yn wych'. Un o Ferthyr oedd yr artist Penry Williams yn wreiddiol, ond ymgartrefodd yn Rhufain yn y pen draw. Yma mae trawiadau ei frws yn rhydd ac yn reddfol ac mae rhannau o’r llun wedi’u gadael yn anorffenedig. Mae hyn yn awgrymu ei fod wedi gweithio’n gyflym i ddal effaith dŵr yn ewynnu dros y rhaeadrau.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
1 Hydref 2020, 19:15
I absolutely love this painting
Amgueddfa Cymru Staff Amgueddfa Cymru
9 Mawrth 2011, 16:07
Dear Lucy,
Thank you for your comment, the white detail at the bottom centre of the painting isn't a lamb, but a small white marking, possibly a representation of white water from the falls reflecting in a small pool.
Lucy Williams
3 Mawrth 2011, 12:29
can i see a lamb at the bottom in the centre of the page?
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd