Casgliadau Celf Arlein
Richard Owen o Ynysmaengwyn [Richard Owen of Ynysmaengwyn]
WILSON, Richard (1714 - 1782)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 76.8 x 63.5 cm
Derbyniwyd: 1951; Rhodd; E.H. Corbett
Rhif Derbynoli: NMW A 5005
Er mai yn Llundain y treuliodd Wilson ei yrfa gynnar fel peintiwr portreadau, cafodd gefnogaeth gyson gan foneddigion Cymru, a’i comisiynodd i beintio portreadau. Yn eu plith roedd Edward Lloyd, oedd yn uchel ei barch ymysg ei gymheiriaid gan iddo blannu dros 400,000 o goed ar ei stadau yn y gogledd; a Richard Owen, Uchel Siryf Meirionnydd 1756-7.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.