Casgliadau Celf Arlein

Yr Afon ym Mhenegoes [River at Penegoes]

WILSON, Richard (1714 - 1782), yn arddull

Yr Afon ym Mhenegoes

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 76.5 x 102.5 cm

Derbyniwyd: 1927; Rhodd; F. Emile Andrews

Rhif Derbynoli: NMW A 3187

Ganwyd a magwyd Wilson ym Mhenegoes lle'r oedd ei dad yn rheithor, felly mae'n debygol y byddai wedi peintio golygfa o'r ardal. Mae'r label ar y cefn yn datgan bod yr arlunydd wedi cyflwyno'r peintiad i'w ffrind Paul Sandby ym 1758, blwyddyn wedi i Wilson ddychwelyd o'r Eidal. Ond mae'r arddull naìf o beintio a phresenoldeb cyfansoddiad cynharach dan y llun o ddyn yn trywanu llew, sydd fel arall yn anhysbys yng ngwaith Wilson, yn ei gwneud yn anodd derbyn mai ganddo ef y mae'r llun.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd