Casgliadau Celf Arlein
Gweledigaeth y Penydiwr a Breuddwyd y Bugail [The Penitent's Vision: The Shepherd's Dream]
WHAITE, Henry Clarence (1828 - 1912)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 118.2 x 82.7 cm
Derbyniwyd: 2001; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 19777
Ganwyd Whaite ym Manceinion, a bu'n mynychu Ysgol Gelf Manceinion ac Academi Leigh yn Llundain. O 1851 bu'n treulio llawer o'i amser ym Metws y Coed, lle bu'n cael ei annog gan David Cox. Roedd ar gyrion y cylch Cyn-Raffaelaidd, ac fe'i canmolwyd gan y beirniad John Ruskin ym 1859. Ym 1862 cychwynnodd ar ddarlun mawr o'r enw, Gweledigaeth y Penydiwr, yr oedd wedi ei ail-greu ar thema o Daith y Pererin, ond gwrthodwyd hwn gan yr Academi Frenhinol ym 1865. Ym 1883 torrodd y peintiad yn bedair rhan (mae hon yn un ohonynt) ac ychwanegu ffurf y bugail sy'n cysgu.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.