Casgliadau Celf Arlein
Thomas Gainsborough, Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg
GAINSBOROUGH, Thomas (1727 - 1788)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 147.0 x 175.0 cm
Derbyniwyd: 2001; Dyrannwyd yn lle treth; Llywodraeth E.M.
Rhif Derbynoli: NMW A 22780
Y darlun hwn yw un o’r tirluniau harddaf a mwyaf grymus a beintiwyd gan Gainsborough yn ystod ei flynyddoedd olaf yng Nghaerfaddon. Mae’n cyfuno gwartheg gwladaidd, cariadon delfrydol, a thirlun euraidd yn y pellter. Mae’r cyfansoddiad yn ymwybodol Glawdaidd, a’r ymdriniaeth yn eofn, gyda slabiau o impasto yn yr awyr. Credir iddo gael ei beintio yn Shockerwick Manor, cartref y cludwr ffyniannus o Gaerfaddon, Walter Wiltshire (c. 1719–99). Roedd Gainsborough yn ymwelydd cyson a defnyddiai wasanaeth ‘flying waggon’ cyson Wiltshire i gludo ei beintiadau i Lundain i’w harddangos.
Rhoddodd Gainsborough y gwaith hwn i Wiltshire, ynghyd ag Y Wagen Fedi, pan adawodd Gaerfaddon a mynd i Lundain ym 1774. Mae’r llun hwnnw yn dyddio o 1767, ac mae’n ymddangos bod Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg wedi ei beintio fel cymar iddo, naill ai ym 1771, neu yn fuan cyn i’r arlunydd adael am Lundain. Gwerthwyd y ddau lun gan John Wiltshire ym 1867. Arhosodd y ddau gyda’i gilydd hyd 1946, pan aeth Y Wagen Fedi i Sefydliad Barber, Birmingham, ac y prynwyd Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg gan y perchennog papur newydd Arglwydd Camrose.
sylw - (6)
Hi Allison,
This work remains on display in Gallery 4: 'Art in 18th-Century Britain'.
Best wishes,
Jennifer Dudley
Curator: Art Collections Management and Access
Dear Jane Jellicoe,
Thank you for your comment, this work by Gainsborough is now back on public display in our 'Art in 18th Century Britain' gallery [Gallery 4 on the visitor guide]
Many thanks,
Graham
Digital Media
Dear Brian
Thank you for your enquiry that we have received through our website. Rocky Wooded Landscape with Rustic Lovers, Herdsmen and Cows by Thomas Gainsborough is currently on tour in the United States until 2016. We hope to have it back on display by the summer of 2016, but please check back nearer the time to confirm dates.
Many thanks,
Graham Davies
Brian Armstrong