Casgliadau Celf Arlein
Love Parry III (1720-1778) [ Love Parry III (1720-1778)]
YSGOL BRYDEINIG, 18fed ganrif
Dyddiad: 1731
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 73.7 x 63.3 cm
Derbyniwyd: 1930; Rhodd; F. Emile Andrews
Rhif Derbynoli: NMW A 3505
Love Parry III oedd w^yr yr eglwyswr a'r pregethwr mawr, 'Love-God' Parry (1654-1707) a mab Love Parry (1696-1778). Ef ddaeth â'r ty^ ym Madryn i'r teulu trwy briodi Sidney Hughes a ddeuai o deulu cyfoethog o Fiwmares. Cawsant fab, Love arall, ond bu farw yn ei blentyndod ac aeth stad Madryn i'w merch, Margaret, a briododd ei chefnder Thomas Parry Jones-Parry.
Dangosir Love Parry III yma fel bachgen ifanc gyda hebog. Mae'r arysgrif yn datgelu ei fod yn 11 oed pan beintiwyd y llun ar Awst 3 1731. Nid yw'r arlunydd yn hysbys ond mae'n amlwg ei fod yn arlunydd adar medrus. Mae'r bachgen yn gwisgo dillad sy'n ymddangos yn hen ffasiwn i'r cyfnod, gan atgoffa rhywun o ddiwedd yr 1690au.