Casgliadau Celf Arlein

Gosteg

CAPPELLE, Jan van de (1624 - 1679)

Gosteg

Dyddiad: 1654

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 110.0 x 148.2 cm

Derbyniwyd: 1994; Prynwyd; gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Ymddiriedolaeth Elusennol John Paul Getty Jnr

Rhif Derbynoli: NMW A 2754

Mae'r darlun hwn yn dangos fflyd fechan o longau glannau yr Iseldiroedd. Mae milwyr yn gloddesta ar fwrdd cwch camlas, tra bo gŵr anrhydeddus yn cael ei gludo tuag at dref gaerog mewn cwch rhwyfo. Masnachwr cyfoethog o Amsterdam oedd yr artist, van de Cappelle. Roedd yn berchen ar ffatri lifo, ond roedd ganddo yrfa fel morluniwr hefyd, ar ôl dysgu’r grefft iddo’i hun. Daeth â'r math newydd o olygfa forwrol i'w uchafbwynt, gan ddangos dawn eithriadol i gydbwyso ystyriaethau ffurfiol gwneud darluniau a chofnodi awyrgylch, naws a llewyrch. Roedd yn hwyliwr brwd, ac mae’n debyg y byddai’n creu brasluniau ar ei long hwylio bach i’w troi’n beintiadau’n ddiweddarach. Daeth ei forluniau atmosfferig, gydag wybrennau llwydwyn, moroedd symudliw a llongau manwl yn enwog iawn. Roedd ganddo gasgliad rhyfeddol o weithiau celf, gan gynnwys gweithiau gan Rembrandt, Rubens a Hals, yn ogystal ag amryw o beintiadau o’r môr. Y person cyntaf i'w gofnodi'n berchennog ar y darlun hwn oedd Syr Lawrence Dundas (tua 1710-1781), a wnaeth ei ffortiwn fel conctractiwr i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd. Yr oedd yn noddwr arbennig i'r celfyddydau, a thua 1770 comisynodd Johann Zoffany i beintio portread ohono gyda'i w^yr , yn eistedd yn y llyfrgell yn ei gartref yn Llundain a darlun van de Cappelle i'w weld yn amlwg uwchben y lle tan.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd