Casgliadau Celf Arlein
Mamolaeth
CARRIÈRE, Eugène (1849 - 1906)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 54.8 x 73.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2174
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae cysylltiad agos rhwng y gwaith hwn a pheintiad a arddangoswyd ym 1890 o dan y teitl Cwsg, ac ysgythriad ym 1888 o dan y teitl Realaeth â Hud Breuddwyd. Byddai Carrière yn aml yn ailadrodd ei hoff gyfansoddiadau, sy'n cynrychioli cyflwr emosiynol yn hytrach nag unigolion penodol. Ym 1906 meddai un o'r beirniaid am ansawdd ei waith: 'Yr enaid sydd yma heb unrhyw ddigwyddiadau ffurfiol, dynolryw yn cuddio o dan ffalster y bersonoliaeth unigol.' Prynodd Gwendoline Davies y darlun hwn ym 1914.
sylw - (11)
I saw it a few years ago and it took my breath away, however on subsequent visits, it hasn't been available to view.
Would love to see it again.
www.museumwales.ac.uk/picturelibrary