Casgliadau Celf Arlein
Y Baddon Traed
CARRIÈRE, Eugène (1849 - 1906)
Dyddiad: 1890 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 35.5 x 27.6 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2436
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Yn y gwaith hwn o tua 1890, mae'r bywyd llonydd a'r gweithgarwch domestig yn cyfeirio yn ôl at olygfeydd o'r Iseldiroedd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Sylwodd Carrière fod 'peintiad yn ddatblygiad rhesymegol o oleuni'. Mae ei chiaroscuro y mae ei ffigyrau a'i fotiffau fel pe baent yn tyfu allan ohono yn ein hatgoffa o ffocws meddal ffotograffau sepia cyfoes. Mae'r naws freuddwydiol hon yn ein gwahodd i gymharu'r gwaith â cherddoriaeth a syniadau barddonol avant garde Paul Verlaine. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym 1913.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.