Casgliadau Celf Arlein

Y Dioddefaint yn yr Ardd

CESARI, Giuseppe (Cavalier d' Arpino) (1568 - 1640)

Y Dioddefaint yn yr Ardd

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 255.0 x 145.0 cm

Derbyniwyd: 1978; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 233

Darlunnir Crist yn gweddïo am arweiniad yng Ngardd Gethsemane wedi’r Swper Olaf. Yn y blaen, mae’r apostolion Iago, Pedr ac Ioan yn cysgu tra bo angel yn ymddangos gyda’r groes. Ganed Cesari yn Arpino rhwng Rhufain a Napoli. Enillodd Cesari, a elwid hefyd yn Il Cavalier D’Arpino, rai o gomisiynau mwyaf anrhydeddus y cyfnod.  Cafodd ei urddo’n farchog gan ei noddwr, y Pab Clement VIII, a’r hyn sy’n ei wneud yn fwyaf enwog yw’r ffaith mai ef oedd ‘meistr’ Caravaggio. Yn y llun hwn o'r 1590au mae'r modelu meddal a'r glasuriaeth gain yn nodweddiadol o'i arddull gynnar.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd