Casgliadau Celf Arlein
Thomas Johnes, Hafod (1748-1816) [Thomas Johnes of Hafod (1748-1816)]
CHANTREY, Sir Francis (1782 - 1841)
Dyddiad: 1811
Cyfrwng: marmor
Maint: 69.8 cm
Derbyniwyd: 1991; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 514
Yn y 1780au trefnodd Thomas Johnes (1748-1816) erddi pleser yn yr Hafod yng Ngheredigion ar sail damcaniaethau 'Tirwedd Ddarluniadol' ei gefnder Richard Payne Knight o Gastell Downton, Swydd Henffordd. Byddai ymwelwyr yn tyrru i weld yr Elysium a grëwyd mewn man a ystyrid gynt yn anghysbell a gerwin. Noddai Johnes y celfyddydau hefyd ac yr oedd yn amaethwr blaengar. Archebwyd y penddelw hwn ym 1811 am gost o £105.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.