Casgliadau Celf Arlein

Duwies Trugaredd, Guanyin

YSGOL TSIEINEAIDD

Tarian Arfbeisiol

Cyfrwng: pren peintiedig

Maint: 125.0 cm

Derbyniwyd: 1945; Rhodd; Yr Arglwydd Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 405

Duw Bodhisattva new Fwdistaidd yw Guanyin  Mae'r Bodhisattva wedi gweld y goleuni ond wedi penderfynu aros ymhlith dynion i'w helpu i gyrraedd nirvana. Erbyn y ddegfed ganrif OC mae'n debyg mai Guanyin , a gynrychiolai gydymdeimlad, oedd y ffigur mwyaf poblogaidd ym Mwdistiaeth Tseina. Câi'r duwdod ei ystyried yn gynyddol fel rhywun â phwer hud, a'i gysylltu â chwedlau Taoaidd a duwiesau gwarchodol crefydd boblogaidd. Erbyn y cyfnod Ming câi ei bortreadu'n aml fel duwies, fel a wneir yma.

Mae'n debyg i'r ffigwr hwn gael ei lunio yn nhalaith Shanxi yn Ngogledd Tseina lle'r oedd celfyddyd Fwdistaidd wedi datblygu nodweddion Tseineaidd penodol erbyn y ddeuddegfed ganrif. Mae wedi ei drwsio a'i ail-beintio droeon, ond yn wreiddiol bwriedid iddo edrych fel efydd wedi ei euro. Roedd yn un o nifer o gerfluniau pren Tseineaidd a oedd ar y farchnad yn Llundain yn y 1930au, a phrynwyd hwn gan frawd Gwendoline a Margaret Davies.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Judy
15 Tachwedd 2013, 19:57
I am looking for information about a painted tapestry stamped Chinese working mens union, Trafalgar square, England, in my possession but to no avail. Can someone assist me?
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd