Casgliadau Celf Arlein

Y Pwll

COROT, Jean-Baptiste Camille (1796 - 1875)

Y Pwll

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 39.4 x 67.9 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2442

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Cyfleu awyrgylch arbennig, nid adrodd stori neu ddangos lle penodol, yw nod y darlun hwn. Mae Corot wedi brwsio’n ysgafn i gyfleu’r golau sy’n newid. Mae’r lliwiau arian golau yn gymysg â fflachiadau cynnil o liw, er enghraifft yng nghapiau’r ffigyrau. Roedd technegau Corot, a ddatblygodd trwy wylio natur yn ofalus, yn sail i dirluniau’r Argraffiadwyr.

Roedd y paentiad olew ymysg y grŵp cyntaf o ddarluniau a brynodd Gwendoline Davies yn Mehefin 1908. Roedd y chwiorydd Davies wedi edmygu gwaith Corot ym Mharis ac roedd ganddynt lyfr amdano. Prynodd Margaret waith arall yn ystod yr un mis, ac aeth y chwiorydd yn eu blaenau i brynu tri arall.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd