Casgliadau Celf Arlein
Richard Myddelton (1726-1795)
COTES, Francis (1726 - 1770)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 127.0 x 101.5 cm
Derbyniwyd: 1994; Prynwyd; gyda grant gan y Swyddfa Gymreig
Rhif Derbynoli: NMW A 2981
Er bod peintwyr portreadau yn teithio trwy Gymru yn y ddeunawfed ganrif, roedd y bonedd mwyaf cyfoethog yn gynyddol yn comisiynu darluniau ohonynt eu hunain gan arlunwyr o Lundain. Gwelir llawer o'r portreadau hyn yn oriel y 18fed ganrif yma gan, ymysg eraill, Hogarth, Zoffany, Reynolds, Gainsborough a Romney. Mae'r peintiad hwn gan Francis Cotes fel arfer yn crogi yng Nghastell y Waun. Roedd Richard Myddleton, a etifeddodd Gastell y Waun ym 1747, yn Aelod Seneddol ac yn byw am ran o'r flwyddyn yn Llundain. Priododd ym 1761 a bu bron iddo ef a'i wraig, a beintiwyd gan Cotes hefyd, fynd yn fethdalwyr trwy brynu moethau ffasiynol ac ailadeiladu'r castell a newid y gerddi.