Casgliadau Celf Arlein

tebot a chlawr

Dyddiad: 1723-1725

Cyfrwng:

Maint: h(cm) : 11.8 x l(cm) handle to spout : 15.5 x diam

Derbyniwyd: 1919; Rhodd

Rhif Derbynoli: NMW A 32630

Casgliad: Casgliad Wilfred de Winton

Mae'r siâp yn un o'r ffurfiau Meissen cynharaf ac yn amlwg yng nghrochenwaith caled Böttger o tua 1710. Mae ganddo hefyd brototeip arian a gellir ei briodoli i Johann Jacob Irminger (1634-1724), gofaint aur y llys oedd yn gyfrifol am ddyluniadau'r ffatri o 1710. Daw addurn y ffigwr o ddalen 87 yn Llawysgrif Schulz, y catalog o ddyluniadau a gasglwyd gan Höroldt ac eraill rhwng 1720 a 1730. Mae taflenni 87 ac 88 yn anarferol gan eu bod yn olygfeydd mewn cylchoedd, yn hytrach na chyfresluniau o ffigurau fel sydd i’w gweld yn y mwyafrif o Lawysgrifau, a credir eu bod yn weithiau cynnar iawn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd