Casgliadau Celf Arlein

Castell Conwy [Conway Castle]

DANIELL, William (1769 - 1837)

Castell Conwy

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 106.0 x 181.5 cm

Derbyniwyd: 1989; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 502

Roedd Daniel yn ddisgybl i'w ewythr Thomas, ac ym 1799 aeth i Ysgolion yr Academi Frenhinol. O 1802 bu'n canolbwyntio ar olygfeydd ym Mhrydain. Bu yng Nghymru ym 1807 a gwnaeth frasluniau ar gyfer nifer o weithiau olew, gan gynnwys hwn a welwyd yn yr Academi Frenhinol ym 1812.

Adeiladwyd Conwy, un o'r cestyll gorau yng Nghymru, gan Edward I o 1284 ymlaen. Roedd yr harbwr islaw yn un o'r prif borthladdoedd ar gyfer allforio cynnyrch amaethyddol lleol. Newidiwyd golwg y castell pan godwyd pont grog Telford dros Afon Conwy ym 1822-26.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd