Casgliadau Celf Arlein
Tirlun ger Sant'Agata [Landscape near Sant'Agata]
BARKER of Bath, Thomas (1769 - 1847)
Cyfrwng: olew ar bapur ar fwrdd
Maint: 37.0 x 43.5 cm
Derbyniwyd: 1916; Rhodd; Yr Uwchgapten F.T. James
Rhif Derbynoli: NMW A 455
‘Gwnewch gymaint o’ch astudiaethau â phosib o natur’ oedd cyngor Charles Spackman, noddwr Thomas Barker, pan gychwynnodd ar ei daith i’r Eidal. Gwrandawodd yr artist ifanc arno gan dreulio cynifer o oriau’n braslunio golygfeydd fel hyn yn yr awyr agored nes iddo bron â marw o drawiad haul! Ganed Barker ym Mhont-y-pŵl, ond symudodd i Gaerfaddon yn ddiweddarach. Mae’r lliwiau prudd a’r trawiadau brws bras yn nodweddiadol o’i arddull
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.