Casgliadau Celf Arlein

Don Quixote yn darllen

DAUMIER, Honore (1808 - 1879)

Don Quixote yn darllen

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 82.2 x 65.0 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2454

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Yma, mae Don Quixote yn darllen y straeon archogaidd a fyddai’n ei ysbrydoli i ddilyn ei anturiaethau personol ei hun. Tu ôl iddo, mae ei forwyn a’r offeiriad yn edrych drwy’r drws, yn poeni am ei obsesiwn. Dyma un o blith nifer o olygfeydd yr artist o nofel enwog Cervantes. Roedd gwaith Daumier yn ddylanwadol dros ben, yn enwedig i Argraffiadwyr fel Edgar Degas, perchennog y llun hwn ar un adeg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd