Casgliadau Celf Arlein

Dawnswraig wedi Gwisgo, astudiaeth

DEGAS, Edgar (1834 - 1917)

Dawnswraig wedi Gwisgo, astudiaeth

Cyfrwng: efydd

Maint: 71.7 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2457

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Gwnaed y model ar gyfer y gwiath efydd hwn ym 1879-80 fel astudiaeth ar gyfer gwaith enwog Degas Y Ddawnswraig fach pedair ar bymtheg oed. Ei fodel oedd Marie Van Goethen (g. 1864), disgybl o Wlad Belg yn Opera Paris. Gwnaed y fersiwn gyflawn gyntaf o'r cerflun hwn o gwyr ac roedd arno ddillad go iawn. Yn Arddangosfa'r Argraffiadwyr ym 1881, cafodd ei ddisgrifio fel gwaith ' rhyfeddol ei adeiladwaith a'i realaeth'. Castiwyd yr astudiaeth efydd hon mewn cyfres o 22 ym 1919-21 a phrynwyd hi gan Gwendoline Davies ym 1923.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd