Casgliadau Celf Arlein
Addoliad y Bugeiliaid
EECKHOUT, Gerbrandt van den (1621 - 1674)
Dyddiad: 1665
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 49.5 x 62.2 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 29
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae llusern egwan yn bwrw goleuni ar y Crist newydd-anedig. Mae Mair ei fam yn dal ynghwsg ond mae’r bugeiliaid, a ddaeth liw nos i dalu gwrogaeth i’r Baban Iesu, wedi deffro Joseff. Yn draddodiadol fe’u darlunnir yn addoli’r Iesu, ond yn y darlun hwn gwelwn y foment pan gyrhaeddodd y bugeiliaid y stabl yn annisgwyl. Mae amseru dramatig Van den Eeckhout a’i ddefnydd o olau theatrig yn dangos dylanwad ei athro a’i gyfaill, Rembrandt.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.