Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: Early 19th century
Maint: h(cm) : 3.1 x l(cm) : 25.7 x w(cm) : 11.6,h(cm) :
Derbyniwyd: 1910; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 50059
Dechreuodd y teulu Allgood gynhyrchu Japanwaith ym Mhont-y-pŵl oddeutu 1730. Wedi dadl deuluol ym 1763, sefydlodd Thomas ac Edward Allgood eu busnes eu hunain ym Mrynbuga, gyda’r ffatri newydd ar New Market Street ger tafarn y George. Roedd hi’n frwydr gyhoeddus yn y wasg rhwng ffatrïoedd Pont-y-pŵl a Brynbuga gyda’r ddwy ochr yn hawlio goruchafiaeth yn eu hysbysebion. Ar ddydd Sadwrn 6 Awst 1763, gosododd ffatri Pont-y-pŵl her i ffatri Brynbuga, gyda bet o £50 yn y fantol. Yr enillwyr fyddai’r ffatri â’r cynnyrch gorau ym marn yr arbenigwyr. Gwrthododd teulu Allgood Brynbuga’r gan ddisgrifio’u perthnasau fel ŵyn yn dysgu’r ddafad i bori: ‘mere beginners...like some cunning raw stripling challenging some noted hero.’