Casgliadau Celf Arlein
Bore Sul
ELWYN, John (1916 - 1997)
Dyddiad: 1950
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 50.5 x 61.0 cm
Derbyniwyd: 1951; Rhodd; Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru
Rhif Derbynoli: NMW A 3917
Ganwyd John Elwyn yn ne Ceredigion a bu'r Gymru wledig, yn arbennig yr ardal o gwmpas Castell Newydd Emlyn, yn ysbrydoliaeth iddo yn ystod ei yrfa fel athro yn Lloegr. Roedd Bore Sul yn un o ddau beintiad 'capel' o 1950, yn darlunio pobl yn eu dillad dydd Sul a'u siwtiau tywyll yn mynd i'r Capel neu'n dod oddi yno. Dangoswyd y ddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Roedd Elwyn yn un o nifer o beintwyr o'r 1950au y teimlid bod eu gwaith yn hygyrch ac yn unigryw Gymreig. Roedd Bore Sul yn un o nifer o weithiau a brynwyd gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru.
sylw - (1)