Casgliadau Celf Arlein

Catherine Vaughan (née Nanney) (1692-1768)

FELLOWES, James (1710 - 1751)

Catherine Vaughan (née Nanney) (1692-1768)

Dyddiad: 1751

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 76.0 x 63.2 cm

Derbyniwyd: 1993; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 2412

Fellowes Pinx 1751 yw llofnod yr arlunydd ar gefn y cynfas hwn. Er na chaiff y wraig yn y llun ei henwi, mae'r tebygrwydd rhwng y portread hwn a'r un o William Vaughan yn awgrymu mai ei wraig Catherine Nanney (1692-1768) yw'r testun. Roedd yn ferch ac yn etifedd i Hugh Nanney, AS Sir Feirionnydd a hi oedd aelod olaf hen deulu a honnai fod yn ddisgynyddion i'r tywysog Ynyr Hen, o'r 13eg ganrif. Ei phriodas ym 1732 oedd yr olaf o gyfres o briodasau rhwng teuluoedd Nanney a Vaughan, y ddau deulu mwyaf dylanwadol yn Sir Feirionnydd. Daeth y darlun o Nannau ger Dolgellau.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd