Casgliadau Celf Arlein
Y Dioddefaint yn yr Ardd
GUERCINO (Giovanni Francesco Barbieri) (1591 - 1666)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 232.1 x 162.5 cm
Derbyniwyd: 1978; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 7
Dyma Grist yn gweddïo yng Ngardd Gethsemane cyn ei arestio. Yng nghanol poen ei amheuaeth gwaeddodd Crist 'O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf'. Mae ei dalcen yn fyrlymau o chwys sy’n edrych fel gwaed. Mae’r allorlun hwn yn nodweddiadol o ddarluniau’r Gwrthddiwygiad Catholig. Yn y darn allor hwn gwelir y cwpan fel caregl yn cynnwys tair hoelen y Croeshoeliad, sy'n cysylltu dioddefaint Crist â'r offeren. Llysenw'r arlunydd oedd il Guercino – y gŵr llygatgroes – sy’n deillio o anaf a gafodd i’w lygaid mewn damwain pan oedd yn blentyn. Fe'i ganed yn Cento ac ymwelodd â Rhufain ym 1621-23 gan symud i Bologna ym 1642 a sefydlu ei hun yn fuan iawn yn un o'r prif arlunwyr yno.
sylw - (1)