Casgliadau Celf Arlein

Portread o Fenyw

HEEMSKERCK, Maerten van (1498 - 1574)

Portread o Fenyw

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 40.5 x 33.0 cm

Derbyniwyd: 1985; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 235

Yn y portread hwn o tua 1540 a'i gymar mae'r adeiladau, sydd wedi eu peintio'n 'argraffiadol', a'r cefndir yn ein hatgoffa o waith ffresgo hynafol Rhufain a welwyd gan yr arlunydd yn Nhŷ Aur Nero a oedd newydd ei gloddio. Mae'r tirluniau cain yn gefndir dramatig i nodweddion gwahanol y pâr anhysbys: mae'r dyn bochgoch, porthiannus yn gwrthgyferbynnu â'i goler ffwr trwchus a'i wraig welw wedi ei fframio mewn penwisg wen ffres a gwisg felfed ddu. Roedd yn arferol i wragedd priod y cyfnod orchuddio’u gwallt. Fel ei gŵr yn y portread crogaddurn, mae ei statws o ran cyfoeth i’w weld yn amlwg. Portread crogaddurn yw un o ddau bortread a grëwyd fel pâr. Byddent fel arfer yn bortreadau o barau priod i’w harddangos ochr yn ochr yn eu cartref.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd