Casgliadau Celf Arlein
Glowyr yn canu [Miners singing]
HERMAN, Josef (1911 - 2000)
© Nini Herman
Dyddiad: 1950-51
Cyfrwng: olew a chreon ar fwrdd essex gyda grwnd plastr
Maint: 43.5 x 121.6 cm
Derbyniwyd: 1992; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 1674
Dianc o Wlad Pwyl wnaeth Herman a threuliodd ddeng mlynedd o 1944 i 1954 yn Ystradgynlais, lle peintiodd ei themáu mwyaf adnabyddus, sef gweithfeydd glo a bywyd y glowyr. Astudiaeth yw hon ar gyfer ei waith mwyaf, y llun anferth Glowyr a wnaed ar gyfer Pafiliwn Mwynau'r Ynys yng Ngŵyl Prydain ym 1951. Dechreuodd yr arlunydd gyda'r ffigwr sydd â'i fraich i fyny ar y chwith, ac wedyn rhoes ystyr storïol i'w osgo drwy ei ymgorffori gyda grŵp o gantorion.
sylw - (1)