Casgliadau Celf Arlein

Yr Actor [The Actor]

HOCKNEY, David (1937 - )

Yr Actor

Dyddiad: 1964

Cyfrwng: acrylig ar gynfas

Maint: 166.5 x 167.3 cm

Derbyniwyd: 1999; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd ac Ymddiriedolaeth Derek Williams

Rhif Derbynoli: NMW A 13523

Mae Yr Actor yn un o bum paentiad a wnaeth Hockney yn ystod cyfnod o chwe wythnos yn dysgu ym Mhrifysgol Iowa yn fuan wedi iddo symud i UDA. Mae'n cynnwys amrywiaeth o fotifau sydd wedi bod yn ganolog i'w oeuvre, gan gynnwys gosodiad golygfa tebyg i lwyfan, y soffa batrymog a'r siapiau fel caligraffi yn yr awyr. Seiliwyd y ffigwr, a welwyd yn ystod taith yr artist i'r Aifft ym mis Medi 1963, ar gerflun o'r pharo hereticaidd Akhenaton (1370-52 CC). Mae pennau tebyg yn ymddangos yn Pedwar Pen (Eifftaidd) (1963) Hockney a Casglwr Celf o Galiffornia (1964). Yn ystod teyrnasiad y pharo llwyddodd arlunwyr i ymgyrraedd at ryddid mynegiant na wnaethpwyd o'r blaen, ac ers hynny, mae wedi dod i gael ei weld fel ffigwr cyfoes, a anwyd ymhell cyn ei amser; cyfansoddwyd yr opera Akhnaten gan Philip Glass ym 1984. Mae'r rhychwant o gyfeiriadau llenyddol a hanesyddol Eifftaidd sy'n ymddangos yng ngwaith Hockney yn ystod 1961-63 yn awgrymu fod ei ddewis o bwnc yn hollol fwriadol. Yn Yr Actor, mae'r cyfuniad o 'haniaethau lliwgar, byrfodau graffeg ac amrywiaethau chwaraeus ar faint' yn nodweddiadol o'r dyfeisgarwch a'r greadigaeth sy'n bywiocau cynyrchiadau cyfnod hynod greadigol Hockney oddeutu 1962-66.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nia Meleri Evans Staff Amgueddfa Cymru
12 Mawrth 2020, 15:06

Dear Veronica Stephen,

Thank you for your enquiry. I have passed it on to my colleague who will be able to advise on this. They will in touch soon to discuss further.

Kind regards,

Nia
(Digital team)

Veronica Stephen
11 Mawrth 2020, 14:29
Do you have prints of David Hockney’s , The Actor?
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd