Casgliadau Celf Arlein
Masarnwydd yn Cuckfield, Sussex [Maples at Cuckfield, Sussex]
BEVAN, Robert Polhill (1865 - 1925)
Dyddiad: 1914
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 51.5 x 61.2 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2085
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Bu Bevan yn astudio yn Ysgol Gelf Westminster ac ym Mharis. Ym 1911 yr oedd yn un o'r aelodau a sefydlodd Grw^p Camden Town. Mae'r darlun hwn yn portreadu'r olygfa o Faes y Dref yn Horsgate, cartref tad yr arlunydd, ger Cuckfield yn nwyrain swydd Sussex. Er bod naws y tirlun hwn yn ysgafn, mae'r pwyslais ar batrwm a strwythur onglog yn debyg i beintio Mynegiannol cyfoes. Prynodd Margaret Davies y gwaith ym 1954.
sylw - (2)