Casgliadau Celf Arlein
Arennig [Arenig]
INNES, James Dickson (1887 - 1914)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 23.0 x 33.0 cm
Derbyniwyd: 1954; Rhodd; Syr Edward Marsh
Rhif Derbynoli: NMW A 202
Mae’r olygfa liwgar hon yn ynysu’r mynydd yn erbyn awyr llachar. Daeth Innes ar draws Arennig, ger y Bala, ym 1910 ac fe’i peintiodd dro ar ôl tro. Fel y dywedodd ei gyfaill, Augustus John, daeth Arennig yn ‘gartref ysbrydol iddo’. Roedd Innes wedi teithio’n helaeth yn ne Ffrainc a defnyddiodd liwiau bras a goleuni clir ardal Môr y Canoldir wrth beintio’i wlad ei hun. Mae symlrwydd y cynllun, y lliwiau llachar gwastad a chanolbwynt y cyfansoddiad hwn, sy'n dyddio o tua 1911, ar batrwm y mynydd yn ein hatgoffa o brintiau Siapaneaidd megis torluniau pren Hokusai o Fynydd Fuji.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.