Casgliadau Celf Arlein

Arennig [Arenig]

INNES, James Dickson (1887 - 1914)

Arennig

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 23.0 x 33.0 cm

Derbyniwyd: 1954; Rhodd; Syr Edward Marsh

Rhif Derbynoli: NMW A 202

Mae’r olygfa liwgar hon yn ynysu’r mynydd yn erbyn awyr llachar. Daeth Innes ar draws Arennig, ger y Bala, ym 1910 ac fe’i peintiodd dro ar ôl tro. Fel y dywedodd ei gyfaill, Augustus John, daeth Arennig yn ‘gartref ysbrydol iddo’. Roedd Innes wedi teithio’n helaeth yn ne Ffrainc a defnyddiodd liwiau bras a goleuni clir ardal Môr y Canoldir wrth beintio’i wlad ei hun.  Mae symlrwydd y cynllun, y lliwiau llachar gwastad a chanolbwynt y cyfansoddiad hwn, sy'n dyddio o tua 1911, ar batrwm y mynydd yn ein hatgoffa o brintiau Siapaneaidd megis torluniau pren Hokusai o Fynydd Fuji.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd