Celf ar y Cyd yn dod â gwaith celf newydd i Ysbyty Maes Bae Abertawe

Wrth ymateb i COVID-19 mae Amgueddfa Cymru yn cydweithio â Byrddau Iechyd i ddod â gweithiau o'r casgliad celf cenedlaethol i ysbytai a lleoliadau gofal cymunedol ledled Cymru.

Staff Ysbyty Maes Bae Abertawe bleidleisiodd dros y detholiad hwn o ddelweddau i lonni waliau'r Ganolfan Frechu Dorfol. Caiff y gwaith ei osod ar waliau'r Ganolfan ym Medi 2021, a'i roi yn rhodd i'r Bwrdd Iechyd.

Yn y detholiad terfynol mae cymysgedd ddiddorol o ddelweddau, themâu, pobl a lleoliadau sydd â chyswllt ag Abertawe a'r cyffiniau – o luniau o dde Cymru a dynnwyd gan y ffotograffydd arloesol David Hurn i baentiadau gan artistiaid â chysylltiad lleol.

Mae casgliad celf Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac rydyn ni am roi cyfle i gymaint o bobl â phosib i'w fwynhau, yn enwedig yn ystod y pandemig pan fo ymweld â'r orielau yn anodd.

Gallwch weld y gweithiau terfynol a ddewiswyd ar gyfer Ysbyty Maes Bae Abertawe yma.

Mae'r project yn rhan o Celf ar y Cyd, casgliad o brojectau sydd am rannu celf ar draws Cymru mewn ymateb i'r argyfwng iechyd presennol. Mae Celf ar y Cyd yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dilynwch ni ar Instagram @celfarycyd.

David Hurn (ganwyd 1934)

Dros y deugain mlynedd diwethaf mae'r ffotograffydd David Hurn wedi canolbwyntio ar ddogfennu ei wlad enedigol mewn ymgais i ganfod gwir ystyr 'diwylliant' Cymru. Mae'r casgliad hwn o ddelweddau yn gipolwg ar fywyd bob dydd yn y de o'r 1970au i'r 1990au.

Thereza Mary Dillwyn Llewelyn (1834-1926)

Ffotograffau casgliad John Dillwyn Llewelyn yn Amgueddfa Cymru yw rhai o'r cynharaf a dynnwyd yng Nghymru erioed. Roedd gan nifer o aelodau'r teulu Dillwyn Llewelyn diddordeb mewn ffotograffaeth. Gwaith ei ferch Thereza yw nifer o'r ffotograffau yn y casgliad, ac rydyn ni'n gwybod i Thereza a'i Mam helpu i brintio rhai o'r ffotograffau.

Cedric Lockwood Morris (1889-1982)

Ganwyd y paentiwr a’r garddwriaethwr Cedric Morris yn Sgeti, Abertawe. Mae ei bortreadau o adar yn llawn lliw a chymeriad. Roedd gan Cedric Morris ddiddordeb mawr mewn byd natur, ac yn ddiweddarach yn ei yrfa fe dynnodd sylw at effeithiau plaladdwyr y diwydiant ffermio ar boblogaethau adar.

Alfred Janes (1911-1999)

Cadwai rhieni Alfred Janes siop ffrwythau a blodau yn Abertawe, a bu'n hyfforddi yn yr Ysgol Gelf yno ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol. Roedd yn gyfaill i Dylan Thomas, ac yn un o'r cylch oedd yn mynychu'r Kardomah Café, Abertawe. Peintiwyd y darlun hwn yn Ffordd Coleherne ym 1934 ac fe'i prynwyd gan yr amgueddfa yn ystod y flwyddyn ganlynol. Yn ystod y cyfnod hwn defnyddiai Janes y dechneg o wneud toriad llinellol yn arwynebedd y llun gyda chyllell boced i roi mwy o ffurfioldeb i'r peintiad, a gwneud yr wyneb yn fwy amlwg.

Dylan Thomas

Alfred Janes (1911-1999)
Dylan Thomas (1914-1953)
1934
Olew ar gynfas
© Ystâd Alfred Janes / Bridgeman Images
Casgliad Amgueddfa Cymru

Josef Herman (1911-2000)

Dianc o Wlad Pwyl wnaeth Josef Herman, a threuliodd ddeng mlynedd o 1944 i 1954 yn Ystradgynlais, lle peintiodd ei themau mwyaf adnabyddus, sef gweithgeyd glo a bywyd y glowyr.

Dau Löwr

Josef Herman (1911-2000)
Dau Löwr
Canol yr 20fed ganrif
Lithograff ar bapur
© Ystad yr artist
Casgliad Cyngor Celfyddydau Cymru, roddwyd yn 2002

Alfred Sisley (1939-1899)

Alfred Sisley oedd yr unig un o'r Argraffiadwyr mawr i weithio yng Nghymru, gan dreulio'r cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 1897 ym Mhenarth ac ym Mae Langland ar benrhyn Gwyr. Y darluniau hyn o dde Cymru, sy'n edrych ar effeithiau'r golau a'r tywydd, yw ei unig olygfeydd o'r môr, ac maent yn dwyn i gof golygfeydd Monet o arfordir Llydaw. Priododd Sisley ei bartner tymor-hir, Eugénie Lescouzec, yn ystod ei gyfnod ym Mhenarth, a'u mis mêl oedd eu cyfnod ym Mae Langland, er bod iechyd y ddau yn dirywio erbyn hynny. Mae'r lluniau o Fae Langland yn ymrannu'n ddau grwp: yn gyntaf, y golygfeydd o Draeth Bach y Forwyn (Bae Rotherslade heddiw), islaw'r Gwesty Osborne lle roedd y ddau yn aros; yn ail, nifer o ddarluniau o Graig Storr. Roedd y cerrig brig ynysig hyn ger y gwesty'n atyniad mawr iddo, ac fe'i darluniodd adeg llanw a distyll. Mae'r gwaith yma'n dangos ochr ogleddol y graig ar noson braf gyda'r llanw ar drai.

Craig Storr, Traeth Bach y Forwyn, min nos

Alfred Sisley (1939-1899)
Craig Storr, Traeth Bach y Forwyn, min nos
1897
Olew ar gynfas
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Prynwyd ar gyfer Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf, 2004