Archaeoleg a Niwmismateg

Broets o aur Cymru o'r 14eg ganrif, gyda cherrig rhuddem a chameos

Ers dros saith deg a phump o flynyddoedd bu Archaeoleg a Niwmismateg yn casglu tystiolaeth am fywyd a marwolaeth yng Nghymru, gan gynnwys pethau mor wahanol â dannedd mamoth, llongddrylliadau, darnau arian Celtaidd a phelenni canon. Gyda'i gilydd, maen nhw’n creu darlun o archaeoleg a hanes Cymru o’r cyfnod cynharaf mewn ogofâu 250,000 o flynyddoedd yn ôl, hyd at ddechrau'r chwyldro diwydiannol.

Yn ogystal ag astudio’r gweddillion hyn er mwyn deall mwy am darddiad Cymru, mae’r Adran yn ceisio cyflwyno’r darganfyddiadau hyn i wahanol gynulleidfaoedd — grwpiau ysgol, ymwelwyr â’r amgueddfa, pobl dros y we, cymdeithasau cenedlaethol ac academyddion.