Cynhanes Diweddarach

Cafodd y gwrthrychau yn y casgliadau hyn eu defnyddio gan gymdeithasau a ddatblygodd ffyrdd o ddefnyddio metelau. Roeddynt yn gwneud arteffactau o gopor, efydd ac aur, ac yn ddiweddarach o haearn. Arferent berthyn i bobl a oedd yn byw yng Nghymru ar ôl 2500 CC a than ganol y ganrif gyntaf OC.

Tystiolaeth o ddefodau a chladdedigaethu sydd fwyaf amlwg yn y cofnodion o ddechrau'r cyfnod hwn. Roedd y drefn newydd o gladdu yn golygu bod pobl yn cael eu hamlosgi a'u claddu mewn yrnau crochenwaith dan domenni mawr o bridd o'r enw crugiau. Mae'n debyg bod y 'ffermwyr' hyn yn aros am gyfnodau mewn gwahanol rannau o'r wlad, gan symud i ardaloedd newydd gyda'u hanifeiliaid domestig yn ôl treigl y tymhorau.

Roedd copor ac aur yn cael ei gloddio, ei smeltio a'i drin yng Nghymru yn ystod yr ail fileniwm CC. Gwelwyd tystiolaeth o hyn yn ddiweddar pan ddarganfuwyd mwyngloddiau copor cynhanesiol, a chafwyd llu o ddarganfyddiadau o gelfi ac offer efydd, a thorchau a breichledau aur. Defnyddid y rhain fel rhan o rwydweithiau cyfnewid dros gryn bellter rhwng gwahanol gymdeithasau. Mae'n bosibl i lawer ohonynt gael eu hoffrymu mewn defodau i'r duwiau.

O 1200 CC ymlaen dechreuodd y gwahanol gymdeithasau adael mwy a mwy o olion aneddiadau, gan awgrymu bod y cymunedau yn ffermio tiroedd yn llawer mwy dwys erbyn hynny. Codwyd caearau ar fryniau gyda rhagfuriau trawiadol, ac weithiau byddai llawer o adeiladau o'u mewn. Roedd y rhain yn cael eu codi a'u defnyddio gan gymunedau gweddol fawr, ond mae'n bosibl iddynt gyflawni nifer o swyddogaethau, er enghraifft bod yn geyrydd amddiffynnol, yn noddfa dros dro mewn argyfwng, canolfannau cyfnewid neu'n fannau cyfarfod crefyddol neu gymdeithasol. Roedd llawer o bobl yn byw mewn tai crynion ar ffermydd bychain wedi'u hamgáu gan gloddiau neu waliau. Ar eu holau gadawsant gasgliadau o bethau 'pob-dydd', er enghraifft troellau gwerthydau, meini melin ar gyfer malu grawn ac offer haearn.

Dros rannau helaeth o Ewrop, o 400 CC ymlaen, daeth pobl i ddefnyddio celfyddyd mewn arddull Geltaidd neu La Tene. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o'r arddull greadigol fyrlymus hon ar ddarnau efydd yng Nghymru. Ar yr un pryd, roedd haearn wedi dod yn fetel gwerthfawr a phoblogaidd. Mae camp dechnegol a chelfyddydol y gweithwyr efydd a'r gofaint Celtaidd yn hollol amlwg, a ceir esiamplau arbennig yn ein casgliadau. Mae eu harddull a'u hymddangosiad yn cynrychioli ffordd dra gwahanol o feddwl am y byd.