Nwmismateg

Mae'r casgliad nwmismateg yn cynnwys darnau arian, tocynnau, medalau a gwrthrychau perthnasol eraill. Mae'r casgliad yn un eang iawn, o'r hen oesoedd hyd at yr oes bresennol ac mewn pum maes arbenigol: darnau arian Celtaidd, darnau arian Groegaidd a Rhufeinig, darnau arian Lloegr ac Ynysoedd Prydain, tocynnau, arian papur a 'paranwmismatica', yn gysylltiedig â Chymru yn bennaf a medalau a darnau coffaol, yn enwedig rhai yn ymwneud â Chymru a hanes y Cymry. Ceir hefyd gasgliadau bach yn cymharu darnau arian Ewropeaidd, darnau o Drefedigaethau Prydain a'r Byd.

Yn y casgliad y mae nifer o gelciau, darganfyddiadau o safleoedd archaeolegol a darnau unigol, o'r cyfnod Rhufeinig ymlaen. Mae'r darnau arian a ddarganfuwyd yng Nghymru, neu sy'n ymwneud â Chymru, yn parhau'n elfen bwysig yn ein casgliadau. Weithiau, daw trysorau trawiadol i'r fei yng Nghymru, er enghraifft celc Rhyfel Cartref Lloegr o Dregwynt, Sir Benfro (claddwyd tua 1648 ac ailddarganfuwyd ym 1996).