Tablau Botanegol Biwt: project ymchwil Darluniau Botanegol

Staff: Maureen Lazarus & Heather Pardoe

Mae'r project hwn yn ymchwilio i amgylchiadau cynhyrchu Botanical Tables containing the different familys of British Plants distinguished by a few obvious parts of Fructification rang'd in a Synoptical method ac yn archwilio sut y cafodd y setiau o dablau a deunydd gwreiddiol eu dosbarthu. Cynhyrchwyd y llyfr prin hwn gan John Stuart, 3ydd Iarll Biwt a'i ddarlunio gan yr artist botanegol enwog, John Miller. Mae'r darluniau yn plesio'r llygad ac yn wyddonol gywir.

Roedd cynhyrchu'r Tablau Botanegol yn broject uchelgeisiol i egluro barn unigol Biwt am system tacsonomeg Linnaeus ac fe'i gyfansoddwyd yn benodol ar gyfer y 'Rhyw Deg'. Cyhoeddwyd deuddeg o gyfrolau yn breifat a'u cyflwyno i deulu, teulu Brenhinol a chydweithwyr botanegol ledled Ewrop. Yn 1994, roeddem yn ddigon ffodus i dderbyn set gyflawn o Tables yn arwerthiant Christie's o Highly Important Printed Books from Beriah Botfield's Library.