Systemeg planhigion Palaeosöig

Projectau presennol

<em>Neuropteris flexuosa</em> Sternberg, o ardal Westphalia uwch Maes Glo Radstock, Avon. Darn o ffrond medullosaleaidd.
Neuropteris flexuosa

Sternberg, o ardal Westphalia uwch Maes Glo Radstock, Avon. Darn o ffrond medullosaleaidd.

Darn o ffrond rhedyn marattialeaidd, o ardal Westphalia Maes Glo de Cymru.
Lobatopteris micromiltonii

(Corsin) Wagner. Darn o ffrond rhedyn marattialeaidd, o ardal Westphalia Maes Glo de Cymru.

  • Medullosales.
    Dyma oedd un o brif grwpiau planhigion hadau gwlypdir trofannol diwedd y cyfnod Carbonifferaidd. Yn ogystal â bod yn gyfran helaeth o fiomas y llystyfiant gwlypdir hynafol, roeddent hefyd yn hynod am gynhyrchu'r hadau mwyaf sy'n hysbys i ni, oedd weithiau dros 11cm o hyd. Roeddent hefyd yn sensitif i newidiadau amgylcheddol ac maent felly yn grŵp defnyddiol o blanhigion ar gyfer deall cynefinoedd newidiol. Mae'r gwaith yn cynnwys astudiaeth o forffoleg, anatomi a biocemeg epidermaidd y planhigion, ac yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Brifysgol Cape Breton (Sydney, Nova Scotia), yr Amgueddfa Hanes Natur (London), Arolwg Daearegol y Weriniaeth Tsiec (Praha) ac Academi Wyddorau Bwlgaria (Sofia).
  • Marattiales.
    Roedd hwn yn grŵp pwysig o goedrhedyn yn y gwlypdiroedd yma. Yma cyfunir astudiaethau morffolegol ag astudiaethau o'r sborau a gynhyrchwyd ganddynt i adolygu systemeg y planhigion. Mae'r project yn galw am gydweithrediad rhwng rhwydwaith eang o arbenigwyr o Amgueddfa Field (Chicago), Prifysgol Cape Breton (Sydney, Nova Scotia), Academi Wyddorau'r Weriniaeth Tsiec (Praha) ac Amgueddfa Gorllewin Bohemia (Plsen).

Projectau blaenorol yn y maes ymchwil hwn

Yn ddiweddar, adolygodd yr Adran systemeg y planhigyn hadau Carbonifferaidd Eremopteris (gyda chydweithwyr o'r Amgueddfa Hanes Natur a Prifysgol Birmingham).