Casgliadau o Folysgiaid

Gofod gweithio

Rhan o'r casgliad molysgiaid sychion a'r gofod gweithio i ymwelwyr.

Mae casgliadau Molysgiaid Amgueddfa Cymru yn cynnwys tua 180,000 o eitemau o nifer o wahanol gasgliadau a gyfunwyd i greu un dilyniant systematig.

Rhan bwysicaf y casgliad yw casgliad Melvill-Tomlin a ddaeth i'r Amgueddfa ym 1955, ac sy'n cynnwys dros 1,000,000 o sbesimenau!

Un o'r prif dasgau dros y 22 mlynedd ddiwethaf oedd creu cronfa ddata o'r casgliad Melvill-Tomlin, tasg sydd bellach wedi cael ei chyflawni! Mae'n cynnwys tua 84,000 o eitemau, ac mae modd pori drwyddynt ar y safle hwn, a 45,000 eitem o gasgliadau eraill.

Mae dros 5,000 o eitemau eisoes wedi'u hadnabod o ran math, ffigurau a chyfeiriad, gyda 3,300 ohonynt o'r casgliad Melvill-Tomlin yn unig. Mae nifer ohonynt sydd heb eu hadnabod o hyd, ac rydym yn amcangyfrif y gallai fod hyd at 10,000 ohonynt i gyd. Os ydych chi'n meddwl bod gennym fath penodol yn y casgliadau, yna chwiliwch drwy'r gronfa ddata, ond os nad yw'n ymddangos yn y canlyniadau rhowch gynnig ar chwiliad mwy cyffredinol. Mae'n bosib nad yw'r sbesimenau yr ydych yn chwilio amdanynt wedi cael eu hadnabod fel mathau eto.