Gwasanaethau

Shells

Benthyg

Mae’r adran yn cynnig gwasanaeth benthyg rhyngwladol, sy’n cynnwys benthyg sbesimenau teip. Dim ond sefydliadau sy’n cael benthyg eitemau o’n casgliadau. Dylai unigolion sydd am fenthyg eitemau ystyried meithrin cysylltiad ag amgueddfa neu brifysgol leol er mwyn iddynt hwyluso benthyciadau ar eu rhan. Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod unrhyw fenthyciad os nad ydyn ni’n fodlon y bydd ein deunydd yn ddiogel am unrhyw reswm. Gellir benthyg deunydd mwy cyffredinol i gyrff addysg at ddibenion addysgu. Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am fenthyciadau trwy’r Rheolwr Casgliadau, Harriet Wood.

Gwasanaethau adnabod

Fel rhan o sefydliad sy’n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, mae’r adran yn cynnig gwasanaeth adnabod sbesimenau rhad ac am ddim, yn dibynnu ar statws. Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod darparu’r gwasanaeth hwn os yw’r cais yn afresymol, e.e. yn rhy fawr, yn rhy feichus, neu os nad oes gennym ni’r arbenigedd perthnasol. Bydd yr adran yn gwneud gwaith adnabod masnachol o dan gontract. Dylai darpar-gwsmeriaid baratoi disgrifiad o fanylion y project a gofyn am gynigion wedi eu costio oddi wrth aelod o staff yr adran.

Gwirfoddoli

Rydyn ni’n croesawu gwirfoddolwyr ymroddgar sydd am ennill profiad mewn maes o ddiddordeb curadurol neu falacolegol. Mae nifer y llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig, ac mae angen i’r gwirfoddolwyr fod mewn sefyllfa.

Cysylltwch â ni

os oes gennych ddiddordeb mewn helpu.