Planhigion Isel

Chiloscyphus echinellus

Llysiau'r afu (Chiloscyphus echinellus)

Clavaria argillacea

Ffwng (Clavaria argillacea)

Spirogyra

Alga gwyrdd (Spirogyra).

Mae'r casgliadau Planhigion Isel yn cynnwys bryoffytau (mwsogl a llysiau'r afu), cen y cerrig, ffyngau ac algâu (gan gynnwys diatomau). Mae'r grwpiau hyn yn cynrychioli rhai o'r organebau hynaf ar y Ddaear, ac maent yn gwneud cyfraniad pwysig at ecosystemau fel prif gynhyrchwyr ac ailgylchwyr maetholion a dŵr. Fel grŵp, yr enw traddodiadol arnynt oedd cryptogamau (sy'n golygu nad oes modd eu gweld nhw'n atgynhyrchu).

Mae bryoffytau ac algâu'n meithrin egni o'r haul trwy ffotosynthesis. Mae llawer o fryoffytau'n tyfu mewn mannau tywyll a gwlyb, ond mae rhai yn tyfu mewn mannau sych ac yn gallu gwrthsefyll disychiad. Mae algâu'n tyfu mewn pob math o gynefinoedd, o'r môr i ddŵr croyw, mewn rhew a mewn ffynhonnau poeth. Maent yn cynnwys gwymon a diatomau.

Nid yw ffyngau'n cynhyrchu eu hegni eu hunain. Maent yn cael yr egni sydd ei angen arnynt fel dadelfenyddion o blanhigion ac anifeiliaid marw. Mewn cennau, mae alga a ffwng yn byw gyda'i gilydd mewn symbiosis. Mae'r alga'n cael ei ddiogelu yn y ffwng, ac mae'n darparu egni o ffotosynthesis i'r ffwng gan na all y ffwng gynhyrchu ei egni ei hunan.

Casgliadau

Mae ein staff yn datblygu a chynnal y casgliadau hyn, sy'n cynnwys sbesimenau a gasglwyd o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw.

Fe'u cedwir mewn ystafelloedd lle mae'r amgylchedd yn cael ei reoli a defnyddir deunyddiau o safon archifo i sicrhau y bydd y casgliadau'n parhau i fod ar gael i'w hastudio yn y dyfodol.

Mae'r casgliadau'n tyfu o hyd diolch i waith maes ar gyfer arolygon a phrosiectau ymchwil, casgliadau a wneir gan unigolion neu sbesimenau o sefydliadau eraill. Mae ein curaduron yn benthyg sbesimenau i wyddonwyr ym mhedwar ban byd.