Sleidiau ffotograffig 3D Pat a Harold Whitehouse

Y sleidiau 3D yn cael eu labelu ar gyfer casgliadau’r Amgueddfa

Y sleidiau 3D yn cael eu labelu ar gyfer casgliadau’r Amgueddfa

Ffwng Amanita’r Gwybed fel anaglyff coch-glas digidol a grewyd o ddelweddau stereo gwwreiddiol Pat Whitehouse

Ffwng Amanita’r Gwybed fel anaglyff coch-glas digidol a grewyd o ddelweddau stereo gwwreiddiol Pat Whitehouse

Delwedd sleid 3D o Mwsog Eddiog Teneuddail (Racomitrium aquaticum) a gasglwyd yn wreiddiol gan Harold o Bumlumon, Ceredigion

Delwedd sleid 3D o Mwsog Eddiog Teneuddail (Racomitrium aquaticum) a gasglwyd yn wreiddiol gan Harold o Bumlumon, Ceredigion

Mae casgliad sleidiau ffotograffig 3D Whitehouse yn cynnwys delweddau o bobl, adar, planhigion a ffwng gan y ffotograffydd stereosgopig Dr. Patricia (Pat) Whitehouse. Mwsog a llysiau’r afu yw’r rhan fwyaf, a dynnwyd mwy na thebyg gan ei gŵr, Dr. Harold Whitehouse, rhwng 1988 a 2000.

Rhwng y 1950au a’r 1980au bu Pat Whitehouse yn adeiladu cameráu er mwyn tynnu ffotograffau 3D manwl, pan nad oedd cameráu o’r fath ar y farchnad. Roedd yn un o arloeswyr ffotograffiaeth micro-stereosgopig a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol iddi am ei delweddau stereo manwl o fwsogl.

Roedd Harold ei gŵr yn wyddonydd oedd yn astudio mwsog a llysiau’r afu, a dyluniodd Pat ei chamera olaf i’w helpu i dynnu delweddau hynod fanwl o sbesimenau. Wedi iddi farw, fe ddefnyddiodd Harold y camera i ddogfennu cymaint â phosib o fwsog a llysiau’r afu Prydain, sy’n fil a mwy o rywogaethau.

Mae tua 3,600 o sleidiau 3D wedi’u gwneud â llaw yn y casgliad yn dogfennu rhyw 80% o fwsog a llysiau’r afu Prydain. Bydd dwy ddelwedd yn cael eu tynnu o’r gwrthrych o onglau ychydig yn wahanol, sy’n cyfuno i greu delwedd 3D wrth eu dangos drwy daflunydd priodol.

Delweddau 3D o blanhigion sydd bellach wedi’u cadw fel sbesimenau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru yw nifer. Gallwn baru’r ddelwedd 3D o’r planhigyn byw gyda’r sbesimen a gasglwyd gan Harold.

Ym 1990 ysgrifennodd Harold Whitehouse yn The Bryological Times bod ffotograffiaeth 3D yn ei gwneud yn haws i wahanu’r gwrthrych o’r cefndir, ac i weld nodweddion y planhigyn. Mae’r sleidiau yn dangos dail danheddog y Mwsog Penllyfn Cyffredin (Atrichum undulatum), blagur arianwyn y Mwsog Arian (Bryum argenteum) a dail ceugrwm trawiadol y Mwsog Cynffon Sgwarnog (Myurium hochstetteri).