Llyfrgell ac Archifau

Llyfrgell

Mae llyfrgell Sain Ffagan yn cynnwys deunydd sy'n gysylltiedig â hanes cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae'n darparu adnoddau a gwasanaeth, i staff yr Amgueddfa yn bennaf, i hyrwyddo pob agwedd o'u gwaith: adnabod gwrthrychau, eu dehongli yn eu cefndir sosio-hanesyddol, gofalu amdanynt, ateb ymholiadau, paratoi arddangosfeydd, ac yn y blaen. Croesewir hefyd aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio'r Llyfrgell. Defnyddir hi'n enwedig gan fyfyrwyr a gweithwyr cyfryngau, yn ogystal ag unigolion.

Mae'r llyfrgell ar agor ddydd Llun a Mawrth 10:00-4:45yh

Archif Sain

Er y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl.

Mae'r recordiadau'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau:

  • amaethyddiaeth
  • crefftau
  • gwaith tŷ
  • bwydydd traddodiadol
  • meddyginiaethau gwerin
  • chwaraeon
  • storïau gwerin
  • canu gwerin
  • arferion tymhorol
  • arferion marw a chladdu
  • diwydiannau megis y diwydiant glo
  • y sefyllfa ieithyddol
  • tafodieithoedd y Gymraeg a geirfâu crefft

Er bod y mwyafrif o'r cyfweliadau yn Gymraeg, mae hefyd oriau lawer o ddeunydd yn yr iaith Saesneg, yn enwedig o'r ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol Saesneg eu hiaith, megis de Penfro, Bro Gwyr a'r Gororau, a'r de-ddwyrain diwydiannnol. Ychwanegwyd at y rhain pan dderbyniwyd casgliad o dros 600 o dapiau ymchwil ar gyfer cyfres hanes llafar All Our Lives BBC Cymru i'r archif.

Archif Ffilm a Fideo

Mae gan yr Amgueddfa archif ddethol o tua 50 awr o ffilmiau 16mm. Gwnaed cyfran helaeth ohonynt yn y 1970au gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa a oedd yn awyddus i gofnodi olion diwethaf yr hen ffordd Gymreig o fyw. Ffilmiau mud lliw ydynt o hen ddulliau o amaethu, gwneud bwydydd traddodiadol, ac arddangos crefftau traddodiadol.

Yn ychwanegol at ffilmiau a wnaed yn y maes, ceir ffilmiau 16mm a roddwyd i'r archif, neu a gafwyd gan gwmnïau megis y BBC a TWW wedi iddynt gydweithio â staff yr Amgueddfa ar raglen deledu.

Ymhlith y rhain ceir ffilmiau o'r Fari Lwyd yn Llangynwyd yn y 1960au, Hywel Wood y sipsi Cymreig yn clocsio yng nghegin Castell Sain Ffagan pan oedd yn 80 oed, a chopi o 'Y Chwarelwr' - y ffilm lafar gyntaf yn y Gymraeg.

Archif Llawysgrifau

Er i'r Amgueddfa, fel y gellid disgwyl, roi pwyslais o'r cychwyn ar gasglu gwrthrychau, mae gan yr Archif yn ei meddiant lu o lawysgrifau megis:

  • llythyrau,
  • nodiadau ar wahanol bynciau,
  • cynhyrchion eisteddfodol a chymdeithasau arbennig,
  • traethodau ymchwil perthnasol,
  • baledi, carolau ac anthemau printiedig,
  • dyddiaduron,
  • llyfrau cyfrifon ffermwyr, crefftwyr a masnachwyr,
  • llyfrau lloffion,
  • cynlluniau adeiladau
  • cytundebau prentisiaeth
  • llyfrau ymarferion ysgol
  • llyfrau clustnodau defaid
  • llythyrau neithior (printiedig)

Archif Ffotograffiaeth

Mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys tua 150,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ers agor Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 1948 bu'r staff yn tynnu lluniau o fywyd gwerin Cymru, ac mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys y rhain, ond hefyd gyfoeth o luniau llawer hyn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.

The Photographic Archive is used extensively by researchers, and especially by publishers and the media.