Gwybodaeth am y Casgliadau

Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1907, ac mae'n cynnwys casgliad celf cyn-Amgueddfa Hanes Natur, Celf a Henebion Caerdydd, a ddechreuwyd ym 1882. Cartref cyntaf y casgliad oedd 11 o gelloedd yr heddlu a choridor yn Llysoedd Barn Caerdydd. Fe'i trosglwyddwyd i'r adeilad presennol yn y 1920au.

Oriel gelf gyda phaentiadau olew yn hongian ar waliau damasg glas golau ac organ addurnedig ar y pen pellaf

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yng nghanol y ddinas, ac mae'n cynnwys 15 o orielau sy'n adrodd hanes celf yng Nghymru ac Ewrop dros y 500 mlynedd diwethaf. Mae'n dangos gweithiau o'n casgliad cynyddol o weithiau celf fodern a chyfoes, a grëwyd gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams, mewn arddangosfeydd newidiol.

Mae orielau eraill yn dangos rhaglen o arddangosfeydd arbennig sy'n darlunio, yn atgyfnerthu ac yn ategu'r casgliad parhaol. Crëir y rhan fwyaf o'r arddangosfeydd dros dro hyn o'n casgliadau ein hunain, ond rydyn ni'n ganolfan hefyd ar gyfer arddangosfeydd teithiol. Mae'r cyfleusterau eraill yn cynnwys Ystafell Astudio Printiau a Lluniau, lle gall ymwelwyr fwynhau detholiad o'n 28,000 o weithiau ar bapur trwy wneud apwyntiad ymlaen llaw. Mae gan yr Adran Gelf dair stiwdio cadwraeth a gweithdy fframio sy'n gofalu am y casgliad ac yn paratoi gweithiau i'w harddangos.

Ers canrifoedd, mae Cymru wedi ysbrydoli artistiaid o bob math – o beintwyr tirluniau i grefftwyr cyfoes. Mae Cymry wedi creu casgliadau celf nodedig, ac mae rhai ohonynt bellach wedi ffeindio cartref yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Comisiynodd Syr Watkin Williams-Wynn (1749–1789) beintiadau, celfi a gwaith arian gan artistiaid a dylunwyr blaenllaw ei ddydd. Ein cymwynaswyr mwyaf hael oedd y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies a roddodd eu casgliadau ysblennydd o gelf, oedd yn gyfoethog dros ben o safbwynt peintiadau a cherfluniau Ffrengig gan Millet, Rodin, Monet a Cézanne. Mae'r rhoddion eraill a gafwyd yn cynnwys casgliad porslen Ewropeaidd helaeth Wilfred Seymour De Winton a'r crochenwaith Cymreig dihafal a gyfrannwyd gan Ernest Morton Nance.

Casgliadau mawr ac arwyddocaol

Derek Williams

Derek Mathias Tudor Williams F.R.I.C.S. (1929–1984) oedd cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies.

Mae’r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan y neo-ramantwyr Prydeinig, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. Cefnogir y gweithiau hyn gan waith artistiaid eraill o’r un cyfnod, megis Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore.

Rhagor Gwefan Ymddiriedolaeth Derek Williams

Casgliad Williams-Wynn

Daeth y teulu Williams-Wynn, o Wynnstay yn Sir Ddinbych, i’r amlwg fel un o’r cyfoethocaf yng Nghymru ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif, ac fe barhaodd y statws hwn am dros ddau gan mlynedd.

Roedd gan sawl aelod o’r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau, ac efallai mai Syr Watkin Williams-Wynn (1749–1789), 4ydd barwnig, oedd noddwr mwyaf y celfyddydau a ddaeth o Gymru erioed. Mae llawer o’i gasgliad bellach wedi’i gadw yn Amgueddfa Cymru.

Rhagor

Wilfred De Winton

Roedd Wilfred De Winton (1856–1929), o deulu bancio llewyrchus o Sir Frycheiniog, yn un o brif gymwynaswyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ym 1917 a 1929 rhoddodd dros 2,000 o ddarnau o borslen cyfandirol o’r ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymteg i’r Amgueddfa. Dyma un o’r casgliadau pwysicaf o’r fath mewn unrhyw amgueddfa Brydeinig.

Rhagor

Morton Nance

Mae’r casgliad hwn yn cynnwys rhyw bymtheg cant o ddarnau, a ddyblodd gasgliad yr Amgueddfa o borslen Cymreig ym 1952 ac a threblodd nifer yr eitemau o grochenwaith Cymreig. Mae’r casgliad yn cynnwys llawer o eitemau cain o borslen a gynhyrchwyd yn Abertawe a llawer o ddarnau o’r cyfnod byrhoedlog o gynhyrchu porslen yn Nantgarw.

Rhagor

Casgliad y Chwiorydd Davies

Casglodd Gwendoline Davies (1882–1951) a Margaret Davies (1884–1963), dwy chwaer o ganolbarth Cymru, un o gasgliadau celf mawr Prydain yn yr 20fed ganrif. Gyda’i gilydd, gadawsant 260 o weithiau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1951 a 1963, gan drawsnewid casgliad celf yr Amgueddfa yn llwyr o ran cymeriad, ansawdd ac ystod.

Rhagor