Crefftau cyfoes

Phil Rogers, fâs potel, crochenwaith caled, 1997, Rhaeadr Gwy, Powys

Phil Rogers
Fâs potel, crochenwaith caled, 1997

Yn ystod y degawdau diwethaf daeth Cymru i fod yn ganolfan bwysig o ran cynhyrchu crefftau cyfoes. Daeth Cymru - yn wledig a threfol, ac yn enwedig i grochenwyr ac artistiaid cerameg — yn fan gweithio a'u hysbrydolai a'u cynhaliai. Mae'n rhan ganolog o'n cenhadaeth i gasglu ac arddangos celfyddyd y gorffennol a'r presennol sydd â chysylltiad â Chymru. Felly yn ein casgliad gwaith crefft anelwn at gynrychioli amrywiaeth y crefftau cyfoes a gynhyrchir yng Nghymru a chan grefftwyr a aned yng Nghymru. Hefyd ymdrechwn i osod y gwaith hwn yn ei gyd-destun ehangach drwy brynu gwaith y crefftwyr blaenaf y tu allan i Gymru.

Cedwir crefftau traddodiadol Cymru, yn gwiltio, gwaith y gof hyd at wneud cyryglau, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

A hithau'n wlad wledig yn bennaf, gwelwyd Cymru yn aml fel lle i encilio, man delfrydol i'r rhai hynny a ddymunai fabwysiadu ffordd amgen o fyw. Stereoteip yw hwn ond un sy'n cydweddu â delfrydau y crochenydd stiwdio arloesol blaengar hwnnw, Bernard Leach. O ganlyniad sefydlodd nifer o grochenwyr yng Nghymru grochendai mewn lleoedd gwledig, ac i wahanol raddau, y maent wedi ceisio dilyn traddodiad Leach. Yr enghraifft orau o hyn yw Phil Rogers, sy'n gweithio yn Rhaeadr Gwy, Powys. Trodd Rogers at grochenwaith wedi iddo ddarllen llyfr Leach A Potter's Book a gan fwyaf mae wedi dysgu ei hun. Fel Leach daeth o dan ddylanwad crochenwaith Tsieina, Corea a Japan ac mae'n defnyddio deunyddiau lleol, fel gwydriadau a wnaed o ludw coed o elltydd cyfagos.

Mae'n arbennig o briodol fod yr Amgueddfa yn caffael crochenwaith yn nhraddodiad Leach, gan mai ewythr Leach, Will Hoyle oedd Cyfarwyddwr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Drwy'r cysylltiad yma y casglodd yr Amgueddfa ym 1923 ei darn cyntaf o waith crefft - fâs slipwaith. Erbyn hyn mae ein casgliad yn cynnwys gwaith crochenwyr eraill sy'n gweithio yng Nghymru ac a ddylanwadwyd gan Bernard Leach. Ymhlith y rheiny y mae Margaret a David Frith a Trefor Owen.

Beverly Bell-Hughes, Powlen Gragen, clai raku, 1996, Cyffordd Llandudno

Beverly Bell-Hughes
Powlen Gragen, clai raku, 1996

Ysbrydolir artistiaid cerameg eraill yn fwy uniongyrchol gan dirwedd Cymru. Er enghraifft mae diddordeb gan Beverley Bell-Hughes, o Gyffordd Llandudno, yn y prosesau naturiol sydd ynghlwm wrth newid; gwelir adleisiau o batrymau'r llanw ac effaith erydiad yn ei gwaith. Gweithia David Binns o Ddinbych mewn arddull foel, ddramatig sydd wedi ei dylanwadu nid yn unig gan ffurfiau pensaernïol a mecanyddol ac aestheteg Japaneaidd ond hefyd gan ansawdd a golwg y graig naturiol.

Dewisodd nifer o brif grochenwyr Prydain weithio yn y Gymru wledig, er i'w hamgylchfyd ddylanwadu yn llai amlwg ar eu gwaith. Ymhlith y rheiny y mae Walter Keeler, sydd wedi gweithio yn ardal Trefynwy er 1976, a John Ward, sy'n byw yn Sir Benfro.

Adlewyrcha'r casgliad hefyd y ffaith fod llawer o grefftwyr yng Nghymru yn byw a gweithio yn yr ardaloedd trefol, yn enwedig yng Nghaerdydd. Mae Geoffrey Swindell, sydd â'i ddiddordebau lluosog yn ymestyn o'r traeth i ffuglen wyddonol, yn cynhyrchu fasau porslen bychain sydd wedi eu llathru mewn ffordd gywrain. Caerdydd yw canolfan Michael Flynn ond mae'n gweithio dramor am lawer o'r amser; mae'n gwneud ffigurau raku a phorslen cymhleth sy'n llawn egni a hiwmor bygythiol, gan dynnu ei ysbrydoliaeth o sawl ffynhonnell: theatr a dawns, mytholeg a chrefydd, cerameg a cherflunwaith hanesyddol yw rhai o'r rhain. Ganwyd Morgen Hall yn Califfornia ond mae'n byw nawr yng Nghaerdydd, lle mae casgliadau yr Amgueddfa ei hun a gwaith William Burges wedi cyfrannu at ddatblygiad ei chrochenwaith gwydriad-tun tra gwahanol.

John Ward, llestr, crochenwaith caled, 1996, Trefdraeth, Sir Benfro

John Ward
Llestr, crochenwaith caled, 1996

Nid denu crefftwyr yn unig a wnaeth Cymru; y mae wedi eu hallforio hefyd. Er enghraifft, ganwyd Elizabeth Fritsch yng Nghymru ym 1940 ac erbyn hyn mae'n grochenwraig o fri rhyngwladol. Mae Clive Bowen, a anwyd yng Nghaerdydd ym 1945, yn awr yn gweithio yn Nyfnaint ac wedi etifeddu safle Michael Cardew fel y prif wneuthurwr llestri slip yn yr hen draddodiad Seisnig. Nid yw Gwilym Thomas, a anwyd yn Abertawe ym 1914, mor enwog, ond bu'n fyfyriwr yn y 1930au i William Staite Murray, un o'r arloeswyr ym maes crochenwaith stiwdio. Treuliodd Thomas y rhan fwyaf o'i yrfa yn dysgu ac ond ychydig iawn o'i botiau hynod gafodd eu gwerthu; fodd bynnag, ar ôl ei farw ym 1995, llwyddodd yr Amgueddfa i gael dewis cynrychioliadol o'i waith gan ei deulu.

Nid yw'r casgliad o waith crefft Prydeinig yn gynhwysfawr o bell ffordd ond mae'n cynrychioli rhai o'r prif dueddiadau yng ngwaith crefft Prydain yn yr 20fed ganrif. Cynrychiolir 'traddodiad Leach' gan waith Hamada Shoji, Katherine Pleydell - Bouverie, Norah Braden a Richard Batterham. Adlewyrchir y traddodiadau amgen, y dylanwadwyd llai arnynt gan grochenwaith Dwyrain Asia, yn y grwpiau o weithiau gan Hans Coper a Lucie Rie: ac mewn darnau gan grochenwyr fel James Tower a gafodd eu dylanwadu gan grochenwaith Picasso. Mae'r crochenwyr amlwg eraill sy'n cael eu cynrychioli yn yr Amgueddfa yn cynnwys Alan Caiger-Smith, Mick Casson a Magdalene Odundo.

Ar hyn o bryd mae ein casgliad crefft yn cynnwys crochenwaith yn unig, bron, ond gobeithiwn ehangu rhychwant y casgliad. Yn y 1960au a'r 1970au dechreuwyd casgliad o emwaith crefft, gan gynnws gwaith gan Helga Zahn, Wendy Ramshaw a Susanna Heron. Ym 1998 comisiynwyd gennym ddau ddarn o waith, fâs a bicer, gan Wally Gilbert, y gof arian o Henffordd.