Ymchwiliau diwydiannau metel Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y diwydiannau haearn, dur, tunplat, mwyndoddi anfferrus, neu fwyngloddio metel?

Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n dri phrif gategori:

  1. Ceisiadau am wybodaeth am hanes gwahanol weithfeydd mwyndoddi anfferrus, haearn, dur a thunplat, yn ogystal â mwyngloddiau copr, haearn, plwm, sinc, arian ac aur, a’r cwmnïau oedd yn berchen arnynt.
  2. Ceisiadau am wybodaeth am y peiriannau a’r prosesau, fel ffwrneisi chwyth, pwdlo haearn gyr, y trawsnewidydd Bessemer a phrosesu mwyn plwm. 
  3. Ceisiadau am wybodaeth am gofnodion cyflogaeth cyndeidiau.

Mae gwybodaeth wedi cael ei chyhoeddi am y prif weithfeydd a chwmnïau haearn, dur a metel, ond does yna ddim ffynhonnell benodol i astudio hanes y gweithfeydd a’r cwmnïau haearn, dur a mwyngloddio llai, na’r mwyafrif o’r gweithfeydd a’r cwmnïau tunplat a mwyndoddi anfferrus. Mae’r wybodaeth am y gweithfeydd llai hyn ar wasgar ar draws hanes y diwydiant yn gyffredinol, hanesion lleol a ffynonellau archif. Gallwn roi cyngor ar y ffynonellau sydd ar gael a ble gallwch ddod o hyd iddynt. 

Cyhoeddwyd nifer o lyfrau sy’n disgrifio gweithfeydd a phrosesau metel yn ystod y 150 mlynedd diwethaf. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn ac eraill yn hawdd eu deall. Gallwn roi cyngor am y rhai a fydd yn addas at eich anghenion chi.

Mae ein casgliad ffotograffau’n cynnwys delweddau o nifer o weithiau a phrosesau metel Cymru, yn ogystal â detholiad da o’r mwyngloddiau metel. Wrth gwrs, mae mwy o ddelweddau o’r gweithfeydd a’r mwyngloddiau mawr na’r rhai bach, ac mae’r casgliad yn cynnwys llawer mwy o ddelweddau o’r diwydiannau haearn, dur a thunplat na’r diwydiannau mwyndoddi anfferrus.    

Mae dewis da o lyfrau ar hanes metelau Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn ein llyfrgell, yn enwedig ein treftadaeth metel yng Nghymru.

Ond nid peth mor syml yw ymchwilio i hanes cyndeidiau yn y diwydiannau metel! Nid oes unrhyw gofnodion cyflogaeth gan yr amgueddfa – y storfeydd a’r archifdai isod sy’n cadw’r ychydig gofnodion sydd ar ôl o’r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Y cwmnïau eu hunain sy’n cadw cofnodion cyflogaeth o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond nid oes hawl gan haneswyr teuluol eu defnyddio oherwydd eu natur gyfrinachol.

Os hoffech chi drafod unrhyw elfen o hyn, ffoniwch Jennifer Protheroe-Jones ar (029) 2057 3630 neu e-bostiwch Jennifer.protheroejones@amgueddfacymru.ac.uk

Dyma rai o’r storfeydd pwysicaf ar gyfer ymchwilwyr hanes metel:

1) Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill

Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill yw’r man cychwyn gorau am mai dyma lle cedwir y rhan fwyaf o’r dogfennau sy’n ymwneud â’r gweithfeydd, y cwmnïau a’r manylion cyflogaeth. Gellir olrhain hanes gweithfeydd, a’r mwyngloddiau’n arbennig, drwy edrych ar gofnodion yr ystadau lle cawsant eu hadeiladu. Yr archifdai sirol sy’n cadw’r rhain gan amlaf. Maent hefyd yn cadw copïau o ganlyniadau cyfrifiadau’r blynyddoedd rhwng 1841 a 1901 – sy’n amhrisiadwy wrth olrhain cyndeidiau oedd yn gweithio yn y diwydiant – yn ogystal â ffynonellau pwysig eraill ar gyfer haneswyr teuluol: 

Archifdy Ynys Môn
Neuadd y Dref
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn (01248) 752562
archifdy@ynysmon.gov.uk
Adran Llawysgrifau
Y Prif Lyfrgell
Prifysgol Cymru Bangor
Ffordd y Coleg, Bangor
Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn (01248) 382966
issc04@bangor.ac.uk
Archifdy Caernarfon
Swyddfeydd Sirol y Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd
Caernarfon
LL55 1SH.
Ffôn (01286) 679088/679095
Ffacs (01286) 679637
archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
Caerfyrddin, SA31 1DS
Ffôn (01267) 228232
Ffacs (01267) 228237
archifau@sirgar.gov.uk
Archifdy Ceredigion
Swyddfa’r Sir
Glan-y-Môr
Aberystwyth
SY23 2DE
Ffôn (01970) 633697/8
archives@ceredigion.gov.uk
Gwasanaeth Archifau Conwy
Yr Hen Ysgol Fwrdd
Ffordd Lloyd
Llandudno
Conwy LL30 2YG
Ffôn (01492) 860882
archifau.archives@conwy.gov.uk
Archifdy Sir Ddinbych
46 Heol Clwyd
Ruthun
LL15 1HP
Ffôn (01824) 708250
Ffacs (01824) 708258
archifau@sirddinbych.gov.uk
Archifdy Sir y Fflint
Yr Hen Reithordy
Penarlâg
CH5 3NR
Ffôn (01244) 532364
Ffacs (01244) 538344
archives@flintshire.gov.uk
Archifdy Morgannwg
Adeilad Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Leckwith
Caerdydd, CF11 8AW
Ffôn (029) 2087 2200
GlamRO@cardiff.ac.uk
Archifdy Gwent,
Neuadd y Sir,
Cwmbrân,
NP44 2XH.
Ffôn (01633) 644886
Ffacs (01633) 648382
gwent.records@torfaen.gov.uk
Archifdy Sir Feirionnydd,
Cae Penarlâg
Dolgellau
Gwynedd, LL40 2YB
Ffôn (01341) 424443
Ffacs (01341) 424505
archifau.dolgellau@gwynedd.gov.uk
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn (01970) 632800
Ffacs (01970) 615709
holi@llgc.org.uk
Archifdy Sir Benfro,
Y Castell
Hwlffordd
SA61 2EF
Ffôn (01437) 763707
Ffacs (01437) 768539
Swyddfa Archifau Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod, LD1 5LG
Ffôn (01597) 826088
Ffacs (01597) 826872
archives@powys.gov.uk

Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Prifysgol Cymru Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn (01792) 295021
archives@swan.ac.uk
Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg
Neuadd y Sir
Heol Ystumllwynarth
Abertawe, SA1 3SN
Ffôn (01792) 636589
Ffacs (01792) 636340
westglam.archives@swansea.gov.uk
Canolfan Astudiaethau Lleol ac Archifau A.N. Palmer
Amgueddfa Wrecsam
Regent Street
Wrecsam
LL11 1RB
Ffôn (01978) 317973
Ffacs (01978) 317982

2) Dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig

Cedwir dogfennau cwmnïau cyfyngedig yn Nhŷ’r Cwmnïau; cedwir dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig sydd wedi darfod yn Archifdy Cenedlaethol Prydain.

Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Y Maendy
Caerdydd, CF14 3UZ
Ffôn (0870) 333 3636
enquiries@companies-house.gov.uk
www.companieshouse.gov.uk
Archifdy Cenedlaethol Prydain
Kew
Richmond
Surrey
TW9 4DU
Ffôn (020) 8876 3444
www.nationalarchives.gov.uk

3) Gwybodaeth am archeoleg ddiwydiannol gweithfeydd a safleoedd mwyngloddio:

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ymddiriedolaethau archeoleg sirol sy’n cadw’r wybodaeth yma. Mae Cadw: Henebion Cymru’n gyfrifol am restru henebion a safleoedd hynafol:

Cadw 
Plas Carew
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd, CF15 7QQ
Ffôn  (01443) 336000
Ffacs  (01443) 336001
cadw@cymru.gsi.gov.uk
www.cadw.gov.uk
Archeoleg Cambria
[Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro]
Neuadd y Sir
Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin, SA19 6AF
Ffôn (01558) 823131
cambria@acadat.com
www.acadat.com
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
7a Stryd yr Eglwys
Trallwng
Powys
SY21 7DL
Ffôn (01938) 553670
Ffacs (01938) 552179
trust@cpat.org.uk
www.cpat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent
Tŷ Heathfield
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL
Ffôn (01792) 655208
Ffacs (01792) 474469
www.ggat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
Craig Beuno
Heol y Garth
Bangor
Gwynedd, LL57 2RT
Ffôn (01248) 352535
gat@heneb.co.uk
www.heneb.co.uk
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
chc.cymru@cbhc.gov.uk
www.cbhc.gov.uk