Ymchwilio hanes merched Cymru

Diddordeb mewn hanes merched yng nghymru?

Ymwelwch â'n Adnoddau Hanes Menywod, neu barhau i ddarllen am hanes menywod yn ein casgliadau diwydiannol.

Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n ddau brif gategori:-

  1. Ceisiadau am wybodaeth am ferched mewn diwydiant, yn enwedig y diwydiannau trwm.
  2. Ceisiadau am wybodaeth am gyndeidiau.

Mae gan yr amgueddfa luniau o ferched yn gweithio yn y diwydiant gwlân a’r gweithfeydd tunplat yn y 1870au a’r 1950au. Mae yna ffotograffau o ferched yn gweithio ym meysydd gweithgynhyrchu a gweinyddu hefyd.

Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd lbeintiadau o ferched yn gweithio ym mwyngloddiau copr Ynys Môn a llun o ‘ferch cols’ wrth ei gwaith yng ngweithfeydd haearn Dowlais, Merthyr Tudful ym 1840. Cewch weld y lluniau ar wefan ‘Casglu’r Tlysau’ trwy ddilyn y cysylltiadau isod.

Peth cymharol newydd yw ymchwilio i hanes merched. Ni ddechreuodd gwaith yn y maes o ddifrif tan y 1960au-1970au. Er bod ffynonellau hanesyddol ar gael wrth chwilio o dan benawdau cyffredinol yn aml, mae angen tipyn o chwilota’n aml iawn, ond mae’n gallu bod yn waith gwerth chweil!

Nid oes gan yr amgueddfa unrhyw gofnodion cyfrifiad na chofnodion cyflogaeth. Swyddfeydd cofnodion ac archifdai lleol sy’n cadw’r rhain, mae rhestr ohonynt isod. Mae gan ein llyfrgell gopïau o’r cylchgrawn Llafur, sy’n cynnwys rhai erthyglau am hanes merched, a rhai llyfrau am hanes merched:

  • Discovering Women’s History gan Deirdre Beddoe (Longman, 1998)
  • Out of the Shadows: A History of Women in Twentieth-Century Wales gan Deirdre Beddoe (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2000)
  • Women’s Factory Work in World War I gan Gareth Griffiths (Alan Sutton, 1991)
  • By the Sweat of Their Brow: Women Workers at Victorian Coal Mines gan Angela John (Croom Helm, Llundain, 1980)
  • Our Mothers Land: Chapters in Welsh Women’s History 1830-1939 golygwyd gan Angela V. John (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1991)
  • Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Ddiwydiannol gan Peter Lord (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1998) (tudalennau 150-155 yn arbennig o berthnasol)
  • Women and Work: Twenty Five Years of Gender Equality in Wales gan Teresa Rees (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1999)
  • Campaigning to Close the gap: Celebrating Thirty Years of the Equal Pay Act (TUC, Llundain, 2000)
  • A forgotten army : female munitions workers of south Wales, 1939-1945 gan Mari Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2002)

Os hoffech chi fwrw golwg ar unrhyw un o’r cyhoeddiadau uchod, ffoniwch (029) 2057 3500

Dyma ambell i wefan ddefnyddiol:

Dyma rhai o’r canolfannau pwysig i bobl sy’n ymchwilio i hanes merched. Mae’n werth galw draw i swyddfeydd cofnodion ac archifdai lleol am y gallwch ffeindio deunydd am hanes merched yno’n aml. Ni fydd y rhain mewn adrannau pwrpasol fel rheol, ond fe ffeindiwch chi wybodaeth fyw cyffredinol. Yn aml bydd angen twrio!

The Women's Library
Prifysgol Metropolitan Llundain
Old Castle Street
Llundain E1 7NT
020 7320 2222
www.londonmet.ac.uk/thewomenslibrary/

Mae’r llyfrgell yn cadw casgliadau ar bob math o bynciau, fel hawliau merched, y bleidlais i ferched, rhywioldeb, iechyd, addysg, gwath, hawliau magu plant, y teulu a’r cartref. Mae’r pwyslais yn bennaf ar ferched ym Mhrydain, ond mae rhywfaint o ddeunydd rhyngwladol hefyd. Cewch chwilio gwefan y llyfrgell yn ôl pwnc ac mae’n caniatáu ar gyfer chwilio casgliadau’r llyfrgell hefyd.

Swyddfa Gofnodion Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Leckwith
Caerdydd CF11 8AW
029 20872200
www.glamro.gov.uk

Mae’r swyddfa’n cadw deunydd am fudiad rhyddid y merched yng Nghaerdydd a phapurau a ffotograffau o’r mudiad heddwch Merched dros Heddwch ar y Ddaear. Mae gan y swyddfa gofnodion cwmni Siop Adrannol Howells, Caerdydd a Siop Adrannol Ben Evans o 1900-1960au. Roedd y cwmnïau’n cyflogi llawer o ferched ar y pryd.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg,
Neuadd y Sir,
Ffordd Ystumllwynarth,
Abertawe,
SA1 3SN.
Ffôn 01792 636589

Mae’r gwasanaeth yn cadw deunydd am y mudiad dros y bleidlais i ferched yng Nghymru a mudiad y ffeministiaid yn y de ar ran Archif Merched Cymru.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BU
Ffôn 01970 632800
www.llgc.org.uk/

Mae’r llyfrgell yn cadw casgliad Menna Gallie ar ran Archif Merched Cymru. Mae’r archif yn cynnwys gwybodaeth am y nofelydd a aned yng Ystradgynlais ym 1920 ac a ysgrifennodd ddwy nofel â de Cymru ddiwydiannol yn gefndir iddynt.

Amgueddfa Abertawe
Ffordd Victoria
Yr Ardal Forwrol
Abertawe
SA1 1SN
01792 653763

Mae’r amgueddfa’n cadw casgliad bychan o arteffactau a ffotograffau mewn perthynas â’r mudiad dros y bleidlais i ferched yn Abertawe.

Swyddfa Gofnodion Sirol Ynys Môn
Neuadd y Sir
Llangefni,
Ynys MônLL77 7TW
01248 752080
www.ynysmôn.gov.uk

Gwasanaeth Archif Sir Gaerfyrddin
Parc Myrddin
Waun Dew
CaerfyrddinSA31 3DS
01267 228232
www.caerfyrddin.gov.uk

Archifdy Ceredigion
Neuadd y Sir,
Glan y Môr, Aberystwyth,
Ceredigion SY23 2HE
01970 633697
www.ceredigion-archives.gov.uk

Archifdy Conwy
Lloyd St.
Llandudno
Conwy LL30 2YG
01492 860882
www.conwy.gov.uk/archives

Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint
Yr Hen Reithordy
Penarlâg Glannau Dyfrdwy
Clwyd LL15 1HP
01224 532364
www.flintshire.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Morgannwg
King Edward VII Avenue
Parc Cathays
CaerdyddCF1 3NE
029 2087 0282
www.glamro.gov.uk

Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office]
Steelworks Road
EBBW VALE
Blaenau Gwent NP23 6DN
01495 353363
gwentarchives.gov.uk

Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Swyddfeydd y Sir
Caernarfon
Gwynedd LL55 1SA
01286 679095
www.gwynedd.gov.uk/archives

Gwasanaeth Archifau Gwynedd
Cae Penarlâg,
Dolgellau
Gwynedd LL40 2YF0
01341 424443
www.gwynedd.gov.uk/archives

Swyddfa Gofnodion Sir Benfro
Y Castell,
Hwlffordd,
Sir Benfro, SA
01437 763707
www.pembrokshire.gov.uk

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Plas Crug
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 1NJ
Ffôn (01970) 621200
www.cbhc.gov.uk