Diwydiant

Llun du a gwyn o ddarn o beirianwaith.

Mae’r casgliad diwydiannol yn cynrychioli bywyd diwydiannol Cymru. Mae’n cynnwys y diwydiannau smeltio copr, haearn a dur, mwyngloddio metel, cynhyrchu tunplat a’r diwydiannau ategol. Mae maint peiriannau diwydiannol yn golygu fod llawer o’r prosesau yn cael eu cynrychioli gan ffotograffau, ffilmiau, cynlluniau a modelau.

Casgliadau nodedig:

  • Amrywiaeth eang o gynnyrch o ddiwydiannau prosesu metel Cymru.
  • Offer llaw ac eiddo personol crefftwyr o amrywiaeth o ddiwydiannau Cymru.
  • Enghreifftiau o ddeunyddiau crai diwydiannau Cymru, a chynnyrch y diwydiannau hyn.
  • Enghreifftiau o frics, teils, pibelli a deunyddiau anhydrin o Gymru.
  • Peiriannau sefydlog oedd yn gyrru peirianwaith mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.
  • Tystysgrifau cyfrannau o ddiwydiannau a thrafnidiaeth Cymru; yn arbennig cwmnïau mwyngloddio anfferrus.
  • Pamffledi a gynhyrchwyd gan gwmnïau dur a thunplat Cymru, o’r 1950au i’r 1970au yn bennaf.
  • Ffilmiau a ffotograffau hanesyddol o ddiwydiannau dur a thunplat Cymru.
  • Ffotograffau o safleoedd archaeolegol diwydiannol yng Nghymru.
  • Gweisg argraffu a chyfarpar cysylltiedig gan gynnwys yr unig wasg gyffredin bren o Gymru sydd wedi goroesi.

Diwydiant

Mark Etheridge

Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+
Gweld Proffil