Llyfrgell

Mae Llyfrgell yr Adran Ddiwydiant a Thrafnidiaeth yn cynnwys dros 20,000 o lyfrau a chyfnodolion sydd at wasanaeth staff yr Amgueddfa wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau ymchwil, curadurol a chadwraethol mewn perthynas â chasgliad yr Amgueddfa dan eu gofal, a hefyd ddehongli hanes diwydiannol, trafnidiaeth a morwrol Cymru.

Yn ogystal â chasgliad cynrychioliadol o gyfrolau yn ymdrin â hanes diwydiannau, ceir yn y Llyfrgell hefyd weithiau technegol a chyfarwyddiadol am y diwydiannau hyn. Mae'r Llyfrgell yn cynnwys set gyflawn o Gofrestri Lloyds o 1836 hyd y presennol (mae gennym ambell gyfrol yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1764 a 1832) a chyfres o gyfrolau ar y llongddrylliadau a gofnodwyd o amgylch arfordir yr Ynysoedd Prydeinig. Mae gennym hefyd set gyflawn o'r Annual List of Mines (HMSO) o'r 1850au hyd y presennol. Mae gan y Llyfrgell setiau cynhwysfawr o gyfnodolion pwysig sydd mewn bodolaeth, gan gynnwys HM Inspectors of Mines Reports, yn ogystal â bron 8,000 o gyfrolau a phamffledi rhwymedig yn gysylltiedig â'r diwydiant glo. Ar hyn o bryd tanysgrifiwn i dros ddeugain o gyfnodolion cyfoes.

Oriau agor ac amodau defnyddio

Mae'r Llyfrgell ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm. Mae ar gau bob penwythnos a gwyliau cyhoeddus. Gan mai Llyfrgell gyfeiriadurol ydyw, ni ellir benthyca'r llyfrau er mae modd rhoi'r llyfrau ar fenthyg i lyfrgelloedd eraill drwy'r gwasanaeth benthyg rhynglyfrgellol.

Os hoffech ddefnyddio'r Llyfrgell gallwch wneud hynny drwy drefniant ymlaen llaw; dylid cysylltu â'r Curadur sy'n gyfrifol am y rhan honno o'r Llyfrgell yr ydych am ei defnyddio.