Infertebratau morol

Infertebratau morol
Staff yr Amgueddfa yn casglu sbesimenau ar dir a môr

Staff yr Amgueddfa yn casglu sbesimenau ar dir a môr

Caiff technegau darlunio traddodiadol a ffotograffiaeth eu defnyddio ar y cyd â thechnegau delweddu megis SEM er mwyn adnabod, disgrifio ac astudio sbesimenau

Caiff technegau darlunio traddodiadol a ffotograffiaeth eu defnyddio ar y cyd â thechnegau delweddu megis SEM er mwyn adnabod, disgrifio ac astudio sbesimenau

Mae Adran y Gwyddorau Naturiol yn gyfrifol am gasgliad helaeth ac amrywiol o infertebratau morol. (gweler

Folysgiaid morol a daearol

). Annelida, Arthropoda ac Echinodermata yw mwyafrif y casgliad, yn ogystal â nifer fechan o phyla morol llai eraill.

Mae'n gasgliad dynamig sy'n tyfu'n barhaus diolch i arolygon, gwaith maes, a derbyn sbesimenau'n rhoddion.

Casgliadau

  • Casgliad mawr o bron i chwarter miliwn o sbesimenau cofrestredig o 20 phyla morol gwahanol.
  • Mae gennym hefyd gasgliadau mewn gwirod, samplau meinwe wedi rhewi a Crustacea a chwrel sych.
  • O ganlyniad i arbenigedd ein staff mae dros hanner y casgliad yn samplau Polychaeta (mwydod gwrychog morol).
  • Er bod y rhan fwyaf o samplau o Brydain, mae teipddeunydd Crustacea a Polychaeta yma o dros 60 o wledydd.
  • Deillia cyfran helaeth o'r casgliad o arolygon benthig morol Amgueddfa Cymru ar arfordir Cymru a'r Môr Celtaidd yn ogystal â thramor yn y Seychelles, Hong Kong ac Ynysoedd Malvinas.
  • Mae gennym gasgliadau cyfeiriol o arolygon olew a nwy yn y DU ac ar draws y byd.

Ymchwil

  • Rydym yn arbenigo'n bennaf mewn mwydod gwrychog morol (Annelida: Polychaeta). Mae dros 30 taxa newydd wedi cael eu canfod a'u disgrifio ers 2000, diolch i dechnegau molecwlaidd a morffolegol.
  • Yn ein gwaith rydym yn defnyddio darlunio, SEM, ffotograffiaeth, dyraniad a dadansoddi DNA.
  • Ymhlith ein projectau presennol mae ymchwil i Magelonidae ac ymchwil i Polychaeta Ynysoedd Malvinas.
  • Mae projectau eraill yn cynnwys arolygon o amrywiaeth polychaete Ynysoedd Sili ac arsylwadau o ymddygiad a defnydd codau abdomen Magelonidae.

Marine Invertebrates

Dr Teresa Darbyshire

Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol
Gweld Proffil

Katie Mortimer-Jones

Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol
Gweld Proffil